Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru i gael gwared ar blastig untro o’u caffis.

Mae Y Cei – caffi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe sydd wedi’i ail frandio’n ddiweddar – yn rhan flaenllaw o ymgyrch Amgueddfa Cymru i gael gwared ar blastig untro o’u caffis.

Sathia Lackhmanan

Fydd dim poteli, pecynnau cacen, bagiau saws bychan na gwellt plastig o hyn ymlaen, gyda nwyddau papur, gwydr a chaniau yn cymryd eu lle.

Mae Y Cei hefyd yn cyflwyno cwpanau y gellir eu hailddefnyddio, gyda’r brand arnynt. Bydd modd ail-lenwi’r rhain yn y caffi gyda gostyngiad ar bris y diod. Mae Amgueddfa Cymru yn gwerthu cwpanau y gellir eu hailddefnyddio yn ei holl siopau bellach.

Mae Sathia Lackhmanan, rheolwr arlwyo yn y Glannau, wedi gorfod cael gwared ar greision hyd yn oed, gan ei fod wedi methu dod o hyd i gyflenwr sydd ddim yn defnyddio plastig. Ac mae’n gobeithio dechrau defnyddio te rhydd er mwyn torri gwastraff bagiau te.

Dywedodd Sathia: “Mae’n Flwyddyn y Môr, ac mae’r caffi ar lan y dŵr, felly mae lleihau’r gwastraff yn y moroedd yn bwysig iawn i ni. Rhaid i ni wneud y pethau bychain er mwyn cenedlaethau’r dyfodol – mewn 100 mlynedd bydd yn cael effaith fawr.”

Mae safiad y caffi ar blastig yn arwain y ffordd i weddill safleoedd Amgueddfa Cymru. Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre wedi cael gwared ar wellt plastig ac wedi trefnu sesiwn clirio traeth, ac yng nghaffi Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd bellach fe gewch gôn papur yn hytrach na chwpan blastig i ddal diod o ddŵr. Bydd yr Amgueddfa yn cymryd camau pellach i leihau defnydd plastig yn ei holl safleoedd.

Ac mae rhywfaint o blastig gwastraff yn cael ei ddefnyddio gan Amgueddfa Cymru i greu gwaith celf er mwyn codi ymwybyddiaeth am lygredd plastig yn ein moroedd.

Mae Fforwm Ieuenctid yr Amgueddfa yng Nghaerdydd yn gweithio gyda Surfers Against Sewage ac Ymddiriedolaeth Natur Cymru i drefnu sesiynau clirio traeth, gyda rhywfaint o’r sbwriel yn cael ei ddefnyddio ar gyfer arddangosiadau ac mewn gweithdai yn yr Amgueddfa.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cydnabod llygredd yn y môr yn barod – cafodd un o’i brif sbesimenau, y Môr-grwban Lledraidd mwyaf a gofnodwyd erioed (sydd wedi’i gynnwys yn y Guinness Book of World Records) ei olchi i’r traeth yn Harlech ym mis Medi 1988. Roedd y môr-grwban wedi boddi ar ôl cael ei ddal gan leiniau pysgota, a datgelodd post-mortem fod ei stumog yn llawn plastig.

Mae’r Fforwm Ieuenctid hefyd yn cynhyrchu pecynnau gweithdy a thaflenni i helpu’r cyhoedd i ddeall y broblem, a sut y gallant helpu yn y frwydr yn erbyn plastig untro.

Bydd gweithdai am ddim Plastig yn y Môr yn cael eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 29 Mai–1 Mehefin, ac yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 2 a 3 Mehefin.