Datganiadau i'r Wasg

Gwobr ac Arddangosfa ARTES MUNDI 8

 

Hydref 26, 2018 – Chwefror 24, 2019

AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

Mae Gwobr ac Arddangosfa Artes Mundi 8 wedi agor ei drysau yng Nghaerdydd ac yn cyflwyno arddangosfa sylweddol o waith gan bump o artistiaid cyfoes mwyaf heriol ac arloesol y byd.

 

Mae Artes Mundi, gwobr fwyaf blaenllaw maes celf wleidyddol, yn dathlu gwaith artistiaid rhyngwladol sy’n mynd i’r afael â materion pwysicaf ein byd, o wyliadwriaeth bron yn ddi-baid a hiliaeth ymgloddedig hyd at gam-fanteisio ar raddfa fyd-eang a rheolaeth gan y wladwriaeth ar ryddid yr unigolyn.

 

Artes Mundi 8 yw gwobr gelf fwyaf y DU hefyd, gyda chronfa wobrwyo o £40,000; cyhoeddir yr enillydd mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar Ionawr 24, 2019.

 

Wrth fynd i’r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol a’r cyflwr dynol yn benben, mae’r artistiaid yn yr arddangosfa eleni yn cynnwys:

 

Derbynydd grant MacArthur Genius Trevor Paglen (UDA), a’i ffotograffiaeth yn arholi cyfrinachedd a gwyliadwriaeth hollbresennol yr UDA. Yn ei gyfres, The Other Night Sky (2007 ac yn gyfredol), gweithiodd Paglen gyda rhwydwaith o seryddwyr amatur dros gyfnod o naw mlynedd er mwyn mynd ar drywydd mwy na 200 o loerennau milwrol cudd sy’n cylchdroi’r Ddaear. Mae Paglen hefyd yn arddangos gwaith o’i gyfres Limit Telephotography (2005 ac yn gyfredol) sy’n olrhain gorsafoedd a gweithgareddau cudd llywodraeth yr UDA, yn aml o bellter eithafol.

 

Mae Bouchra Khalili (Moroco/Ffrainc) yn archwilio hanesion chwyldroadol ac yn defnyddio ei gwaith i roi llwyfan i gymunedau ar yr ymylon. Mae Twenty-Two Hours (2018), sy’n cael ei ddangosiad cyntaf yn Artes Mundi 8, yn dilyn dwy fenyw Affricanaidd-Americanaidd sy’n ymchwilio i sut y galwodd y blaid Black Panther ar yr awdur o Ffrainc Jean Genet i deithio’n gyfrinachol i’r UDA yn y 1970au ac ymuno yn y frwydr dros gydraddoldeb hiliol.

 

Gwneuthurwr ffilmiau a enillodd gwobr Palme d’or-- yn Cannes yw Apichatpong Weerasethakul (Gwlad Thai) sy’n cynnig dangosiad cyntaf yn y DU o’i ffilm Invisibility (2016). Mae’r ffilm, sy’n cael ei dangos dros ddwy sgrin, i’w gweld yn freuddwydiol a myfyriol, ond mae’n datguddio ysbrydion yng ngorffennol gwleidyddol Gwlad Thai, a’r ochr dywyll o lygredd gwleidyddol sy’n parhau hyd heddiw.

 

Anna Boghiguian (Canada/Yr Aifft) sy’n meddiannu’r oriel gyntaf gyda gosodiad enfawr newydd yn ymwneud â’r diwydiant dur, gan symud heibio i’r diwydiant byd-eang anhysbys ac i mewn i fywydau’r cymunedau sydd o’i gwmpas, gan gynnwys Port Talbot, Cymru, gerllaw.

 

Mae Otobong Nkanga (Nigeria) wedi cynhyrchu gosodiad rhyngweithiol ar gyfer y safle penodol hwn, sy’n cysylltu bywyd moethus bob dydd y Gorllewin gyda’r elfennau a mwynau craidd sy’n ei greu. Fel drych i osodiad Nkanga gwelir tapestri saith medr o hyd sydd, yn llythrennol, yn gweu ein materoliaeth gyda cham-fanteisio diwydiannol torfol ac effaith amgylcheddol dirywiol ar gymunedau Affricanaidd.

 

Detholwyd y rhestr fer o dros 450 o enwebiadau yn pontio 86 o wledydd gan gynnwys pump o artistiaid cyfoes mwyaf enwog y byd a’u gwaith sy’n mynd ar drywydd beth yw ystyr bod yn ddynol.

 

Meddai Karen MacKinnon, Cyfarwyddwr a Churadur Artes  Mundi 8    “Mae Artes Mundi 8 yn dod â gwaith pum artist rhyngwladol neilltuol at ei gilydd. Trwy eu gwaith maen nhw’n archwilio materion perthnasol o frys megis globaleiddio, gwladychiaeth, pryderon am yr amgylchedd, gwrthsafiad, statws gwladol ac annibyniaeth yr unigolyn. Gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau sy’n amrywio o’r barddonol i’r rhethregol, mae’r artistiaid i gyd yn cysylltu’n ingol â beth yw ystyr bod yn ddynol mewn byd fwyfwy terfysglyd. Mewn gwaith sy’n archwilio masnach ddur byd-eang o Bort Talbot, Cymru, i Jamshedpur, India, cefnogaeth y bardd o Ffrainc Jean Genet i’r symudiad Black Panther, goruchwyliaeth gan y wladwriaeth, ymreolaeth a’n perthynas gyda’r Ddaear a’i hadnoddau, ceir hiwmor, swrealaeth a deunydd sy’n pryfocio. Ond yr hyn sy’n cysylltu’r gwaith yn yr arddangosfa amrywiol hon yw ei berthnasedd a’i bwysigrwydd wrth i’r artistiaid cwestiynu a sylwi ar ysbryd yr oes."

 

Cyhoeddir enillydd Artes Mundi 8 ar Ionawr 24, 2019, menw seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd. Cadeirydd y panel rhyngwladol o feirniaid ar gyfer Artes Mundi 8 yw Oliver Basciano; Golygydd (Rhyngwladol) ArtReview ac ArtReview Asia.

 

Mae’r panel yn cynnwys: 

Katoaka Mami, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phrif Guradur, Amgueddfa Gelf Mori, Tocio

Laura Raicovich, curadur annibynnol yn gweithio allan o Ddinas Efrog Neywdd

Anthony Shapland, Cyfarwyddwr Creadigol, g39, Caerdydd

 

 

Bu detholwyr Artes Mundi 8 - Nick Aikens, curadur yn Amgueddfa Van Abbe, Eindhoven; Daniela Pérez, curadur annibynnol yn gweithio o Ddinas Mecsico; ac Alia Swastika, curadur ac awdur yn gweithio o Jakarta - yn chwilio am artistiaid sy’n cysylltu’n uniongyrchol â bywyd bob dydd trwy eu ffordd o weithio ac yn archwilio materion cymdeithasol cyfoes ar draws y byd.

 

ARTISTIAID Y RHESTR FER

 

ANNA BOGHIGUIAN (CANADA/ YR AIFFT)

Ganwyd Anna Boghiguian ym 1946, Armeniad yng Nghairo, ond heb fabwysiadu’r ddinas fel ei hunig gartref ac yn dal â pherthynas anghyson gyda’r ddinas hyd heddiw. Wrth fyw bywyd crwydrol, mae’r artist wedi symud yn barhaol o ddinas i ddinas ar draws y byd, o’r Aifft i Ganada ac India i Ffrainc. Mae ei gwaith yn cynnig safbwynt unigryw, yn y trydydd berson ond eto yn hollwybodol, ar gymunedau trefol cyfoes. Mae gwaith Anna Boghiguian yn ddwys. Ynddo yn aml ceir testun, delweddau, ffotograffau wedi’u casglu a deunydd dogfennol arall wedi’u cydblethu yn agos iawn. Mae’r lliwiau tanbaid a’u darluniau digymell a llawn mynegiant yn atgoffa rhywun o gofnodion mewn dyddiadur. Maent fel petai’n delweddu a chofnodi profiad byrhoedlog yn ei ffasedau gwahanol.

Mae arddangosfeydd diweddar yn cynnwys Unfinished Conversations: New Work from the Collection, MoMA, Efrog Newydd, 2017.

 

BOUCHRA KHALILI (MOROCO/FFRAINC)

Artist Morocaidd-Ffrengig yw Bouchra Khalili. Ganwyd hi yng Nghasablanca, gan astudio Ffilm yn ddiweddarach yn Sorbonne Nouvelle a Chelfyddydau Gweledol yn yr École Nationale Supérieure d’Arts de Paris-Cergy. Mae’n byw a gweithio ym Merlin ac Oslo. Wrth weithio gyda ffilm, fideo, gosodiadau, ffotograffiaeth a phrintiau, mae dull Khalili yn mynegi iaith, goddrychedd, cyfathrebu geiriol ac archwiliadau daearyddol. Mae pob un o’i phrosiectau’n ymchwilio i strategaethau a disgyrsiau gwrthsefyll wrth iddynt gael eu manylu, datblygu ac adrodd gan unigolion, sydd yn aml yn aelodau o leiafrifoedd gwleidyddol. Mae gwaith Khalili wedi cael ei arddangos ar draws y byd; er enghraifft ei harddangosfa arolwg bwysig Blackboard, Jeu de Paume, Paris (2018); documenta 14 (2017); The Mapping Journey Project, arddangosfa unigol, MoMa, Amgueddfa Gelf Gyfoes, Efrog Newydd (2016); Foreign Office, arddangosfa unigol yn Palais de Tocio, Paris (2015).

 

OTOBONG NKANGA (NIGERIA/GWLAD BELG)

Artist gweledol yw Otobong Nkanga a ddechreuodd astudio celf ym Mhrifysgol Obafemi Awolowo yn Ile-Ife, Nigeria, a pharhau yn yr École Superieure des Beaux-Arts ym Mharis, Ffrainc. Mae darluniadau, gosodiadau, ffotograffau a cherfluniau Otobong Nkanga yn archwilio syniadau i ymwneud â thir a’r gwerth sy’n cael ei gysylltu ag adnoddau naturiol. Mae ei gwaith, gweithgareddau a pherfformiadau yn treiddio i bob math o gyfrwng ac yn ysgogi ffotograffiaeth, darlunio, paentio, cerflunio, gosodiadau a fideo, er i’r holl ddarnau gwahanol gael eu cysylltu’n thematig trwy bensaernïaeth a thirwedd. Fel olrheiniwr dynol sy’n tystio i ffyrdd o fyw a materion amgylcheddol, mae pensaernïaeth a thirwedd yn gweithredu fel seinfwrdd i natur adrodd a pherfformio.

 

TREVOR PAGLEN (UDA)

Mae gwaith yr artist Trevor Paglen yn rhychwantu gwneud delweddau, cerflunio, newyddiaduraeth ymchwiliol, ysgrifennu, peirianwaith a nifer o ddisgyblaethau eraill. Ymysg ei brif ddidordebau yw dysgu sut i weld y foment hanesyddol rydym yn byw ynddi a datblygu modd o ddychmygu sawl dyfodol amgen. Mae Paglen wedi arddangos ar ei ben ei hun yn Vienna Secession, Amgueddfa Gelf Eli & Edythe Broad, Amgueddfa Van Abbe, Frankfurter Kunstverein a Protocinema Istanbul, ac wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd grŵp yn Amgueddfa Gelf Metropolitan, Amgueddfa Gelf Gyfoes San Francisco, Tate Modern, a nifer o leoliadau eraill. Mae wedi ysgrifennu pum llyfr a nifer fawr o erthyglau ar bynciau sy’n cynnwys daearyddiaeth arbrofol, cyfrinachedd gan y wladwriaeth, astudiaeth symbolau milwrol, ffotograffiaeth a natur bod yn weledol.

 

APICHATPONG WEERASETHAKUL (GWLAD THAI)

Ganwyd Apichatpong Weerasethakul ym Mangkok a threulio ei blentyndod yn Khon Kaen yng ngogledd-ddwyrain Gwlad Thai. Dechreuodd greu ffilmiau a gwaith fideo byr ym 1994, gan orffen ei ffilm lawn gyntaf yn 2000. Mae hefyd wedi trefnu arddangosfeydd a gosodiadau mewn nifer o wledydd ers 1998. Mae ei waith - yn aml yn aflinol gyda theimlad cryf o ddadleoliad - yn delio â’r cof, gwleidyddiaeth wedi’i thrin yn gynnil, a materion cymdeithasol. Wrth weithio tu allan i ddiwydiant ffilm masnachol Gwlad Thai, mae’n weithgar wrth hyrwyddo gwneud ffilmiau arbrofol ac annibynnol trwy ei gwmni Kick the Machine. Mae ei brosiectau a ffilmiau nodwedd wedi denu cydnabyddiaeth eang a nifer fawr o wobrau mewn gwyliau, gan gynnwys dwy wobr o Ŵyl Ffilm Cannes. Yn 2005 cyflwynwyd iddo un o wobrau mwyaf Gwlad Thai, Silpatorn, gan Weinyddiaeth Ddiwylliant y wlad.

 

---DIWEDD---