Datganiadau i'r Wasg

Mwy o sylw i falwod dŵr croyw Cymru diolch i gefnogaeth y Loteri Genedlaethol

Mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn grant o £64,500 gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer project treftadaeth natur Codi i’r Wyneb. Diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bwriad y project yw creu canllaw adnabod newydd ar gyfer malwod dŵr croyw’r DU, gyda chymorth pobl o bob cwr o Gymru.

Bydd y project, gaiff ei gefnogi drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn ymdrin â phob rhywogaeth o falwod dŵr croyw yn y DU – dros 40 ohonynt. Mae malwod ein pyllau a’n hafonydd yn rhan annatod o’r dreftadaeth naturiol. Mae’n anodd dod o hyd iddynt – ac adnabod y gwahaniaeth rhwng rhywogaethau – ond gall pob un ohonynt ddweud rhywbeth wrthym am yr amgylchedd. Mae rhai rhywogaethau yn gyffredin ac i’w gweld ym mhob pwll, bron, tra bod eraill yn hynod o brin ac yn cael eu gwarchod – er enghraifft y Falwen Ludiog (Myxas glutinosa) oedd yn gyffredin iawn ar un adeg ond sydd ddim ond i’w gweld yn Eryri erbyn hyn. Mae malwod yn fwyd pwysig i lawer o anifeiliaid, gan gynnwys rhywogaethau o bysgod sy’n boblogaidd gyda physgotwyr.

Dros ddwy flynedd, bydd y project yn defnyddio casgliadau malwod arbennig Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i greu a darlunio canllaw newydd sbon – gyda chymorth curaduron, gwirfoddolwyr a’r cyhoedd. Mewn cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi ledled Cymru, bydd pobl yn helpu i dreialu’r ffyrdd gorau o adnabod rhywogaethau. Yn ôl yn yr Amgueddfa, caiff lluniau eu tynnu o gregyn ac anatomeg y malwod, a chaiff eu DNA ei astudio, er mwyn eu hadnabod a’u cymharu â rhywogaethau gweddill y byd. Bydd rhannau o gasgliad cregyn byd-enwog Amgueddfa Cymru yn cael eu curadu a’u digido, a bydd arddangosfa fechan er mwyn dathlu’r project.

Bydd y canllaw rhywogaethau yn cael ei gyhoeddi gan y Field Studies Council. Hwn fydd y canllaw cynhwysfawr cyntaf ers 50 mlynedd ar gyfer malwod dŵr croyw Prydain. Disgwylir y bydd yn cael ei ddefnyddio ledled y DU am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd Ben Rowson, Uwch Guradur yn Amgueddfa Cymru:
“Roedden ni eisiau gwneud mwy o sylw o’r malwod, a sicrhau bod y canllaw yn un gwerth chweil ac yn ddefnyddiol i bawb. Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y gefnogaeth hon gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac rydym yn edrych ymlaen at gael eu cymorth i adnabod pob rhywogaeth y down ar eu traws.”

Partneriaid eraill y project yw’r Conchological Society of Britain & Ireland, y Malacological Society of London a’r Freshwater Habitats Trust.

Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:

“Mae ein treftadaeth naturiol yn adnodd gwerthfawr iawn, a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mae grantiau’r HLF wedi ein helpu i warchod pob math o dirweddau, cynefinoedd a rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid. Mae HLF yn falch iawn o allu cefnogi Codi i’r Wyneb – project fydd yn tanio diddordeb pobl ym myd natur ac yn eu helpu i’w warchod i’r oesoedd a ddêl.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa ar draws Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

 

– Diwedd –