Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa fawr newydd gan David Nash yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Pleser Amgueddfa Cymru yw cyhoeddi y bydd arddangosfa fawr o waith y cerflunydd a'r artist tir David Nash yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 3 Mai 2019.

David Nash: Cerfluniau’r Tymhorau fydd yr arddangosfa fwyaf, a mwyaf uchelgeisiol o waith yr artist i'w llwyfannu yng Nghymru. Fe'i cynhelir â hithau'n hanner can mlynedd ers i'r artist symud i weithio yng Nghapel Rhiw – cyn gapel y Methodistiaid ym Mlaenau Ffestiniog. 

Mae Capel Rhiw wedi bod yn gartref a stiwdio ganolog i fywyd a gwaith yr artist ers y 1960au, ac mae wedi gweddnewid y gofod yn osodwaith cerfluniol rhyfeddol sy'n gartref i'w 'deulu' o gerfluniau.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys cerfluniau allweddol o ddiwedd y 1960au hyd heddiw, ac yn edrych ar y technegau torri, cerfio a meithrin coed a ddefnyddiwyd gan David Nash i gynhyrchu gwaith sy'n plethu'r haniaethol a'r ffigurol tra'n arddel ffurfiau'r goeden wreiddiol a nodweddion unigryw'r deunydd.

Gyda’r pren a’r coed sy’n greiddiol i'w waith mae hefyd wedi cynhyrchu 'cerfluniau byw' sy'n cofnodi treigl amser eu cynefin. Yn eu plith mae Ash Dome (1977-) lle cafodd dwy ar hugain o goed ynn eu plannu a'u meithrin yn ofod cerfluniol byw, a Wooden Boulder (1978-) sy'n cofnodi taith clogfaen pren cerfiedig o wely nant i'r môr mawr dros y blynyddoedd. Caiff y gweithiau hirhoedlog yma eu cofnodi a'u cyflwyno drwy gyfrwng ffotograffau, ffilmiau a darluniau.

Er i'r rhan fwyaf o'i waith gael ei greu neu ei dyfu o dir a chynefin Blaenau Ffestiniog, mae wedi teithio ymhell hefyd i weithio gyda choed a chymunedau ledled y byd. Adroddir rhai o'r straeon yma yn yr arddangosfa, a dangosir hefyd weithiau a gynhyrchwyd mewn 'chwareli pren' dramor ar gyfer casgliad Capel Rhiw.

Mae David Nash wedi ymddangos mewn amryw arddangosfeydd unigol pwysig ac adolygiadau cerfluniau rhyngwladol, a’i waith i'w weld yng nghasgliadau amgueddfeydd ym mhedwar ban. Mae arddangosfeydd mawr diweddar ym Mharc Cerflunio Swydd Gaerefrog (2010-11) a Gerddi Kew (2012) yn tanlinellu ei bwysigrwydd rhyngwladol fel cerflunydd ac artist tir. Bydd David Nash: Cerfluniau’r Tymhorau yn olrhain gwreiddiau'r llwyddiant rhyngwladol hwn yn hanfod cynefin Blaenau Ffestiniog.

Bydd yr amgueddfa yn mynd ar daith i Oriel Gelf Towner, Eastbourne yn hydref 2019. Yn ategu'r arddangosfa bydd cyhoeddiad cain David Nash: 200 Tymor, yn cynnwys cyfraniadau gan Dr James Fox, Dr Jo Melvin a churadur yr arddangosfa Nicholas Thornton. Cynhelir rhaglen eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau addysg ar draws amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.

Mae’r arddangosfa hon yn derbyn cefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a Sefydliad Henry Moore.

 

Meddai David Nash, “Rydw i wedi byw o dymor i dymor ym mro Ffestiniog ers saith degawd, ac yng Nghapel Rhiw ers pump. Bu cynefin y mynyddoedd yn gyfaill ac yn ysbrydoliaeth i mi. Daeth Capel Rhiw yn gartref i'm teulu ac i’r casgliad o gerfluniau gafodd eu creu yn y fro a thu hwnt. Mae'r arddangosfa hon yn ddathliad o'r tymhorau, y tywydd, y coed, y creu a'r bywyd, a’r gweithiau wedi’u cadw fel 'cynulleidfa', casgliad, gwaddol ar gyfer yr arddangosfa hon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.”

 

 

 

– DIWEDD –