Datganiadau i'r Wasg

Datgan addurniadau cerbyd rhyfel o Oes yr Haearn yn drysor

Y grŵp cyntaf o arteffactau gydag addurniadau Celtaidd i gael eu darganfod yn Sir Benfro

Heddiw (31 Ionawr 2019) cadarnhawyd gan Grwner E. M. Sir Benfro bod grŵp o addurniadau cerbyd rhyfel o Oes yr Haearn (Achos Trysor 18.04 – Cymru) yn drysor.

 

Cafodd y darganfyddiad ei wneud gan Mr Mike Smith ym mis Chwefror 2018 wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm yn Sir Benfro. Cafodd Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) ei hysbysu, a sylwyd yn syth y gallai'r darganfyddiad fod yn drysor.

 

Mae'r darganfyddiad yn cynnwys tlws ceffyl mawr, dolen gyfrwy fawr, strap ac addurniadau harnais a darnau genfa, oll wedi'u gwneud o efydd gydag addurnwaith gwydr coch. Byddai'r addurniadau hyn wedi bod yn sownd i gerbyd rhyfel ac i’r harnais lledr oedd yn cysylltu’r cerbyd â'r merlod.

 

Gwnaed darganfyddiadau eraill yn hwyrach yn 2018, wrth i archaeolegwyr archwilio'r safle gyda chymorth Mr Smith. Mae'r darganfyddiadau hyn yn cynnwys darnau eraill o'r tlws ceffyl, darnau genfa, addurniadau harnais a darnau o strap arall. At ei gilydd, darganfuwyd o leiaf naw gwahanol arteffact.

 

Cafodd yr arteffactau hyn eu gwneud tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl tua diwedd Oes yr Haearn, rhwng OC 25 a 75 mae'n debyg. Mae dyluniadau Celtaidd cain ar nifer o'r gwrthrychau – celf La Tène ddiweddar. Câi gwydr coch ei greu a'i adael i oeri mewn cilfachau yn yr efydd er mwyn creu dyluniadau trawiadol.

 

Dyma'r grŵp cyntaf o arteffactau gydag addurniadau Celtaidd i gael eu darganfod yn Sir Benfro, ac mae'n rhoi cipolwg i ni ar ddulliau a thechnegau addurno cerbydau rhyfel yn ardal llwythau'r Demetae neu'r Octapitae yn y ganrif gyntaf OC.

 

Cafodd y darganfyddiadau eu disgrifio, eu dyddio a'u hadrodd i'r crwner gan guraduron ac archaeolegwyr o Amgueddfa Cymru. Cafodd eu dyddiad, diben ac arddull eu darganfod trwy gymharu'r siâp a'r addurniadau gyda darganfyddiadau eraill ledled Prydain.

 

Câi cerbydau rhyfel eu defnyddio i arddangos pŵer a hunaniaeth eu perchnogion a llwythau ym Mhrydain ar ddiwedd Oes yr Haearn, fel mae'r addurniadau cain yn awgrymu. Ychydig a wyddom am y perchennog, ond mae'n debyg bod y cerbyd rhyfel hwn yn berchen i ddyn neu ddynes oedd â statws uchel yn eu llwyth neu gymuned.

 

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Archaeoleg Gynhanesyddol Amgueddfa Cymru:

 

“Mae'r darganfyddiad hwn yn dyddio'n ôl i gyfnod o newid cymdeithasol pwysig tuag adeg y goresgyniad Rhufeinig, o ddiwedd y 40au OC ymlaen. Daeth llwythau Prydeinig Oes yr Haearn i gysylltiad â'r Rhufeiniaid, a bu brwydro wrth i ddau fyd a dau ddiwylliant gyfarfod.

 

"Mae'n bosibl i'r arteffactau hyn weld rhai o ddigwyddiadau mawr y cyfnod, wrth i'r brodorion amddiffyn eu harferion a'u hunaniaeth yn wyneb ymerodraeth fawr."

 

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:

 

"Er fod fwy fil o flynyddoedd ers Oes yr Haearn a llwythau cynhanesyddol Cymru, mae arteffactau fel hyn yn dod â'r cyfnod yn fyw i ni – byd oedd ar fin cael ei drawsnewid.

 

"Gallwn weld olion pobl Oes yr Haearn mewn cannoedd o fryngaerau ledled Cymru. Mae arteffactau hardd fel rhain yn dangos ochr arall i'w cymdeithas. Chawn ni byth wybod enw'r crefftwyr, ond mae'r gwrthrychau yn brawf o ddychymyg a chlyfrwch, ac yn awgrymu byd o liw a harddwch."

 

Bydd Amgueddfa Cymru yn ceisio prynu'r trysor hwn ar ran y genedl i'w ychwanegu at y casgliad cenedlaethol.