Datganiadau i'r Wasg

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar restr fer gwobr gwerth £100,000 Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf

Enwyd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ger Caerdydd yn un o bump ar restr fer genedlaethol gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf, gwobr fwyaf mawreddog y byd yn y maes. Mae'r wobr flynyddol yn dathlu arloesi a llwyddiant rhagorol mewn amgueddfeydd ac orielau ledled y DU.

Art Fund Museum of the Year

Y pedair amgueddfa arall ar y rhestr fer yw HMS Caroline, Belfast; Nottingham Contemporary; Pitt Rivers, Rhydychen a V&A Dundee.

 

Bydd yr enillydd yn derbyn £100,000 ac yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn y Science Museum, Llundain ar ddydd Mercher 3 Gorffennaf 2019. Bydd yr amgueddfeydd eraill ar y rhestr fer yn derbyn £10,000 yr un i gydnabod eu llwyddiannau. Beirniaid gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 dan gadeiryddiaeth Stephen Deuchar, Cyfarwyddwr y Gronfa Gelf, yw’r artist David Batchelor; y darlledydd a’r gohebydd Brenda Emmanus; Bridget McConnell, Prif Swyddog Gweithredol Glasgow Life; a Bill Sherman, Cyfarwyddwr Athrofa Warburg.

 

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yw un o atyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru, yn datgelu hanes a diwylliant ein cenedl. Y llynedd cwblhawyd project Creu Hanes yr Amgueddfa, project ailddatblygu £30 miliwn i'w throi'n Amgueddfa Hanes Genedlaethol i Gymru, gan agor orielau a gweithdai newydd a gweddnewid profiad yr ymwelydd. Parhaodd yr Amgueddfa ar agor drwy gydol y gwaith ailddatblygu, gan groesawu 3 miliwn o ymwelwyr a welodd dai o'r Oes Haearn a llys o Oes y Tywysogion yn cael eu hail-greu a chanolfan grefft newydd. Ymgysylltwyd hefyd â 720,000 o bobl drwy gyfrwng rhaglen gyhoeddus ddychmygus sy'n brawf o nod yr Amgueddfa i greu hanes 'gyda' phobl Cymru, nid 'ar eu cyfer'.

 

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru,

 

"Rydyn ni wrth ein bodd bod Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar restr fer gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf.

 

"Roedd 2018 yn flwyddyn bwysig yn hanes yr Amgueddfa wrth i ni gwblhau gwaith ailddatblygu gwerth £30 miliwn. Braint fawr oedd creu'r Sain Ffagan newydd gyda chymorth ymarferol a haelioni cynifer o Gymru a thu hwnt.

 

"Diolch i gyfraniadau chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, llwyddwyd i sicrhau help 3,000 a mwy o wirfoddolwyr a 200 sefydliad cymunedol, elusennau stryd a grwpiau lleol o bob cwr o Gymru i gwblhau'r gwaith. Nid project yw hwn i ni, ond dull o weithio ar gyfer y sefydliad cyfan y byddwn yn ei gynnal a'i ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod.

 

"Ein nod yw bod Sain Ffagan yn dod yn ganolfan o ddemocratiaeth ddiwylliannol, gyda meddwl beirniadol ac arfer sgiliau yn elfen greiddiol. Mae'r orielau newydd hefyd bellach yn rhoi adlewyrchiad llawer mwy cynhwysfawr o hanes dyn yng Nghymru, o'r helwyr Neanderthal cyntaf i'n cymuned amlddiwylliannol gyfoes."

 

Dywedodd Stephen Deuchar ar ran y beirniaid: “Mae’r pum amgueddfa ar y rhestr fer wedi ymateb mewn ffyrdd gwahanol a rhagorol i’r her allweddol o ymgysylltu â chynulleidfa mor eang â phosibl mewn dulliau newydd ac anturus. Rydym yn llongyfarch y pum amgueddfa ac yn annog pawb i fynd I ymweld â nhw.”

 

Eleni mae'r Gronfa Gelf yn gofyn i ymwelwyr â'r pum amgueddfa ar y rhestr fer i rannu eu hoff straeon, adolygiadau, ffotograffau ac atgofion ar twitter ar @artfund #museumoftheyear.

 

DIWEDD