Datganiadau i'r Wasg

Dwy safle Amgueddfa Cymru yn ennill gwobrau twristiaeth anrhydeddus!

Mae dwy o safleoedd Amgueddfa Cymru – sef Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan wedi ennill gwobrau twristiaeth nodedig yn ddiweddar am brofiad ymweliad da.

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwobr CIE -  Llechi & Sain Ffagan

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno ar ddechrau mis Ebrill mewn seremoni fawreddog yn Glasgow gan y cwmni teithiau bws o Iwerddon, CIE Tours International, sy'n dod ag ymwelwyr i'r Amgueddfeydd bob wythnos. Mae'r cwmni yn cydnabod yn arbennig y darparwyr twristiaeth sy'n perfformio orau yn y DU, gan y 15,000 o ymwelwyr CIE a ddygwyd i'r DU yn 2018 ac sydd wedi cyflawni cyfradd boddhad cwsmeriaid o fwy na 90%.

Bu Amgueddfa Lechi Cymru dderbyn y wobr am y chweched mlynedd yn olynol gyda Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn cipio’r wobr am y tro cyntaf eleni!

Yn 2018, bu CIE ymweld â 184 o atyniadau a 73 o westai ledled y DU. Atyniadau eraill sydd wedi derbyn y gwobrau yw Tŵr Llundain, man geni Shakespeare a Chastell Caerdydd. 

Lansiwyd y gwobrau chwe mlynedd yn ôl, i gyd-fynd â gwobrau'r cwmni yn Iwerddon. Esboniodd  Elizabeth Crabill, Prif Weithredwr CIE Tours International:

“Mae ein twf yn y DU yn wych, ac mae'r lefel boddhad uchel yn allweddol i hyn, felly mae'n braf cael cydnabod rhagoriaeth yn ein pumed seremoni wobrwyo. Mae pawb sydd wedi derbyn gwobr yn chwarae rôl bwysig yn croesawu ymwelwyr a sicrhau eu bod yn cael profiad cofiadwy. Mae'r cynnydd yn nifer y gwobrau yn adlewyrchu'r modd y mae darparwyr wedi mabwysiadau ein pwyslais ar safon a'r gwelliant cyffredinol mewn safonau. Mae hyn yn wych i'n cwsmeriaid ni ac i'r diwydiant yn gyffredinol. Mae ein hymwelwyr o Ogledd America yn disgwyl lefelau uchel iawn o wasanaeth ac mae sgôr o 90% gan ein hymwelwyr ni yn dipyn o gamp. Mae'r gwelliant mewn safonau mewn pum mlynedd yn rhyfeddol, ac yn profi fod ymdrechion pobl i sicrhau cynnydd yn talu ar ei ganfed."

Am rhagor o wybodaeth cysylltwch â: 

Julie Williams 02920 573707 /  julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk ( Amgueddfa Lechi Cymru) neu  Ellen Davies ( Sain Ffagan)  02920 573486 Ellen.davies@amgueddfacymru.ac.uk   neu Ilya Scott, Real PR Ltd  07799 416476 ilya@real-pr.co.uk. ( ar ran CIE tours)

 

  • Capsiwn Llun:  Julie Williams, Swyddog Marchnata Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis,  Janet Wilding,  Pennaeth  yr Uned Adeiladau Hanesyddol yn Sain Ffagan a Carys Davies, Swyddog gweinyddol yn Sain Ffagan  yn derbyn y wobr CIE gan Elizabeth Crabill, Prof Weithredwraig  CIE tours International Ltd.

 

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae'r amgueddfa ar agor bob dydd rhwng 10am - 5pm. Am rhagor o fanylion ewch i'r wefan yn www.amgueddfa.cymru neu cysylltwch â'r amgueddfa ar 02920 573707 llechi@amgueddfacymru.ac.uk.  Mae mynediad i'r amgueddfa am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Codir tâl bach am rai o'r gweithgareddau.
     
  • Mae Amgueddfa Lechi Cymru wedi’i Ileoli yng ngweithdai Fictoriadd Diwydiannol a adeiladwyd I gefnogi chwaler lechi Dinoriwg uwchlaw. Erbyn heddiw mae’n dweud stori llechi gogledd Cymru i gyd.  Mae mynediad am ddim drwy gefnogaeth LLywodraeth Cynulliad Cymru.
     
  • Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am weinyddu wyth safle ar hyd a lled Cymru
  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru 
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd     
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion                                  
  • Pwll Mawr / Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
  • Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre 
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
  • Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis
  • Y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol, Nantgarw          

      www.amgueddfa.cymru 

CIE tours ydi prif drefnydd blaenllaw teithiau mewnol yr Iwerddon, sydd wedi dod a  dros dair miliwn o ymwelwyr o Ogledd America i deithio o amgylch Iwerddon ers sefydlu’r cwmni. Yn y blynyddoedd diweddar, mae CIE wedi ehangu ei gynnig i gynnwys yr Alban a gweddill y DU fel cyrchfan ymweld. Mae nifer o deithiau newydd yn cael eu cyflwyno yn 2018, gan gynnwys un yn cynnwys Ynysoedd Hebrides allanol a’r Gorllewin Gaeleg, ynghyd a thaith deuluol newydd yn y DU a thaith moethus yn yr Alban. www.cietours.com