Datganiadau i'r Wasg

Dros nos yn y canol oesoedd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ysgol Santes Dwynwen, o Niwbwrch ar Ynys Môn, yw’r ysgol gyntaf i aros dros nos yn Llys Llywelyn, yr ail-gread o un o lysoedd Oes y Tywysogion yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Mae'r llys yn ail-gread o un o lysoedd Tywysogion Gwynedd ac wedi'i seilio ar ddau o'r adeiladau a ddadorchuddiwyd yn Llys Rhosyr ar Ynys Môn, gyda chefnogaeth tystiolaeth archaeolegol a hanesyddol o safleoedd eraill.

Wedi camu yn ôl i'r 13eg ganrif, dyma'r disgyblion yn ail-greu gwledd ganoloesol a chwarae gemau o'r cyfnod, cyn cysgu dan drawstiau lliwgar y neuadd.

Mae'r ddau adeilad wedi'u seilio ar dystiolaeth o oes Llywelyn Fawr gan roi cipolwg byw i ymwelwyr ar un o gyfnodau pwysicaf hanes Cymru.

Meddai Rhiannon Thomas, Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli Amgueddfa Cymru:

"Mae aros dros nos yn Llys Llywelyn yn fenter gyffrous, newydd yn hanes yr Amgueddfa. Am y tro cyntaf, gall disgyblion gysgu'r nos ar y safle, gan ei gwneud yn haws i ysgolion o bob cwr o Gymru i ymweld. Mae'n brofiad hollol unigryw i'r plant wrth iddyn nhw gamu'n ôl drwy'r canrifoedd a chael blas ar fywyd yn llysoedd brenhinol Tywysogion Gwynedd.”

Dywedodd Iwan Jones, Dirprwy Brifathro Ysgol Santes Dwynwen:

"Mae'n fraint cael bod yr ysgol gyntaf i aros dros nos yn Llys Llywelyn. Y disgyblion eu hunain gafodd y syniad o aros dros nos mewn llys o'r canol oesoedd, felly mae'n wych gweld gwireddu eu syniadau."

Yn Hydref 2018, cwblhaodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru y project ailddatblygu mwyaf yn ei hanes. Gwireddwyd hyn diolch i nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF), Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Yn 2012 derbyniodd Sain Ffagan y grant mwyaf erioed i’r HLF ei rhoi yng Nghymru er mwyn adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy. Mae rhaglen addysg Llys Llywelyn wedi derbyn cefnogaeth hael Sefydliad Hodge – yr elusen a sefydlwyd ym 1962 gan Syr Julian Hodge.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar fod Sain Ffagan ar restr fer gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf, gaiff ei ystyried yn wobr amgueddfaol fwyaf y byd. Mae'r wobr flynyddol yn dathlu arloesi a llwyddiant rhagorol mewn amgueddfeydd ac orielau ledled y DU.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa ar draws Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae mynediad am ddim i’r saith Amgueddfa diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION:

 Project £30 miliwn ailddatblygu Sain Ffagan

Yn Hydref 2018, cwblhaodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru y project ailddatblygu mwyaf yn ei hanes. Gwireddwyd hyn diolch i nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF), Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Yn 2012 derbyniodd Sain Ffagan y grant mwyaf erioed i’r HLF ei rhoi yng Nghymru er mwyn adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy.

Roedd Sain Ffagan yn agored drwy gydol y gwaith ailddatblygu gyda chyfleoedd i bobl o bob cwr o Gymru ymwneud â'r broses. Mae 120 o sefydliadau cymunedol, elusennau stryd a grwpiau lleol wedi helpu i lywio'r gwaith ailddatblygu, gan ddarparu cyngor ac arbenigedd. Mae dros 3,000 o wirfoddolwyr wedi rhoi dros 21,000 o'u horiau i'r project. Cefnogwyd addysg a chreadigrwydd 100,000 a mwy o ddisgyblion, myfyrwyr, artistiaid a lleoliadau gwaith. Nawr bydd cyfle i eraill rannu straeon, profiadau, gwybodaeth, casgliadau a sgiliau er mwyn sicrhau bod Sain Ffagan yn adlewyrchu bywyd yng Nghymru dros 230,000 o flynyddoedd.

Beth sy'n rhan o broject ailddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru?

• Prif adeilad wedi'i weddnewid yn llwyr gan gynnwys atriwm dan do, bwyty newydd a gwell cyfleusterau i ymwelwyr gan wneud yr amgueddfa'n atyniad ym mhob tywydd.

• Gofodau newydd ar gyfer ymchwil i'r casgliadau ac addysg yng Nghanolfan Addysg Weston sydd wedi croesawu dros 60,000 o ddisgyblion a myfyrwyr ers agor ym Medi 2017 mewn lleoliad sy'n deilwng o statws Amgueddfa Cymru fel y darparwr addysg y tu allan i'r ystafell ddosbarth mwyaf yng Nghymru.

• Tair oriel newydd yn cyfuno casgliadau archaeoleg a hanes cymdeithasol Cymru.

- Cymru: Cip ar fywyd yng Nghymru dros 230,000 o flynyddoedd.  Mae'r 300 gwrthrych a'r 16 stori newidiol yn rhoi cyfle i bawb gyfrannu a chreu hanes gyda'i gilydd.

- Byw a Bod: Mae bywyd bob-dydd hefyd yn rhan o hanes. Yn yr oriel hon, caiff ymwelwyr flas ar bob agwedd ar fywydau beunyddiol, o ddillad i fwyd, gŵyl, gwaith a marwolaeth. 

- Gweithdy: Oriel bwrpasol sy'n dathlu sgiliau cenedlaethau o grefftwyr. Y gobaith yw y bydd ymwelwyr yn cael eu hysbrydoli gan y crefftau yn yr oriel a throi eu llaw at sgiliau traddodiadol. 

• Llys Llywelyn. Llys o Oes y Tywysogion wedi'i seilio ar dystiolaeth archaeolegol o Lys Rhosyr ar Ynys Môn, gan roi cip ar fywyd Brenhinol Cymru yn y 13eg ganrif.

Bydd hefyd yn gyfle i ddisgyblion gysgu dros nos yn yr Amgueddfa.

• Ffermdy Oes yr Haearn Bryn Eryr, wedi'i seilio ar dystiolaeth archaeolegol o gyfnod y Rhufeiniaid wedi'i adeiladu gan wirfoddolwyr. Mae'r adeilad gwledig yn cynnwys dau dŷ crwn gyda waliau clai chwe throedfedd a thoeon gwellt mawr siâp côn.

• Ail-ddehongli un o'n hadeiladau blaenorol, Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, fel arddangosfa i bobl â dementia ac adnodd i ddysgwyr Cymraeg.

• Maes chwarae'r Iard wedi'i hysbrydoli gan adeiladau hanesyddol Sain Ffagan a'i ddylunio gan yr artist Nils Norman. Mae'n lle i blant gael chwarae'n greadigol, lle i neidio, dringo, a rhedeg o gwmpas.

• Beddrod Oes Efydd. Arbrawf i ail-greu beddrod o'r Oes Efydd, a grëwyd gyda disgyblion uwchradd lleol i ddatgelu mwy am fywydau a hunaniaeth pobl y cyfnod.