Datganiadau i'r Wasg

Lansio penwythnos crefftau newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Cynhelir penwythnos crefftau newydd sbon yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 15 ac 16 Mehefin. Ymunwch â’r hwyl wrth i’r Amgueddfa gynnal arddangosiadau, dosbarthiadau a gweithgareddau i’r teulu cyfan.

Cynhelir penwythnos crefftau newydd sbon yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 15 ac 16 Mehefin. Ymunwch â’r hwyl wrth i’r Amgueddfa gynnal arddangosiadau, dosbarthiadau a gweithgareddau i’r teulu cyfan.

Mae crefftau a chreu wrth galon Sain Ffagan a’r casgliadau. Mae orielau’r Amgueddfa yn llawn o wrthrychau a wnaed â llaw – rhai ohonynt dros 200,000 o flynyddoedd oed.

Dewch i weld crefftwyr o fri yn arddangos eu sgiliau, gan gynnwys gof, gwehydd, melinydd a chlocsiwr yr Amgueddfa. Bydd pob math o grefftau i’w gweld, wrth i arbenigwyr arddangos sgiliau traddodiadol fel hollti llechi, creu basgedi a chneifio.

Dewch i ddysgu sgil newydd yn ein dosbarthiadau meistr. Mae’r sesiynau dwy awr hyn, dan arweiniad arbenigwr cyfeillgar, yn ffordd wych o roi cynnig ar grefft newydd. Dewiswch o’r canlynol: cerfio pren, croesbwytho, naddu fflint, a llawer mwy.

Gall crefftwyr ifanc alw heibio un o’n sesiynau gweithgaredd i’r teulu. Bydd cyfle i wneud potyn, creu coronbleth, a llawer mwy.

Dewch i gael eich ysbrydoli gan grefftau traddodiadol yn Gweithdy, cyn rhoi cynnig arni eich hun.

Dywedodd Bernice Parker, Swyddog Digwyddiadau:

“Mae’n bleser lansio penwythnos crefftau cyntaf Sain Ffagan. Ym mis Hydref 2018 agorwyd Gweithdy, oriel bwrpasol sy’n dathlu sgiliau cenedlaethau o grefftwyr. Rydym yn edrych ymlaen at ddod â’r Amgueddfa’n fyw gyda gweithgareddau ac arddangosiadau ar draws y safle.

“Rydym yn lansio rhaglen newydd o gyrsiau crefft fel rhan o’r penwythnos, felly bydd cyfle i ymwelwyr sy’n mwynhau’r dosbarthiadau meistr gofrestru ar gwrs i wella eu sgiliau.”

Yn Hydref 2018, cwblhaodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru y project ailddatblygu mwyaf yn ei hanes. Gwireddwyd hyn diolch i nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF), Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Yn 2012 derbyniodd Sain Ffagan y grant mwyaf erioed i’r HLF ei rhoi yng Nghymru er mwyn adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar fod Sain Ffagan ar restr fer gwobr Amgueddfa’r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf, gaiff ei ystyried yn wobr amgueddfaol fwyaf y byd. Mae’r wobr flynyddol yn dathlu arloesi a llwyddiant rhagorol mewn amgueddfeydd ac orielau ledled y DU.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa ar draws Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae mynediad am ddim i’r saith Amgueddfa diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Codir tâl am rai gweithgareddau, a gall fod cyfyngiadau oed a lle. Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau.

DIWEDD