Datganiadau i'r Wasg

Gwaith “Brenin o Baentiwr Brenhinoedd” i’w weld yng Nghymru

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn cynnal arddangosfa i goffáu un o artistiaid enwocaf Cymru – er ei fod yn enw go ddiarth i’r rhan fwyaf ohonom!

Bae Baglan, Andrew Vicari

Bachgen o Bort Talbot oedd Andrew Vicari, a aeth yn ei flaen i fod yn artist swyddogol Rhyfel y Gwlff ym 1991, ac yn artist llys i deulu brenhinol Saudi Arabia, gan ennill y teitl “Brenin o Baentiwr Brenhinoedd”.

Ond er gwaethaf arddangos ei waith ledled y byd, agor tair oriel o’i waith yn Saudi Arabia a bod yn un o bedwar artist gorllewinol yn unig i arddangos ei waith yn Tsieina (Rodin, Miro a Chagall oedd y lleill), ychydig o sylw a gafodd yng Nghymru.

Nawr bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn arddangos ei waith, gydag arddangosfa sy’n cynnwys darlun a baentiwyd ar gyfer – ac a achubwyd o – waith cemegol BP ym Mae Baglan (darllenwch i ddarganfod sut y daeth i gasgliadau’r Amgueddfa) a chasgliad o eiddo personol yr artist, yn cynnwys het a roddwyd iddo gan Norman Schwarzkopf, arweinydd lluoedd y cynghreiriaid yn Rhyfel y Gwlff a ffrind personol.

Mae nai Vicari, sy’n rhannu enw cyntaf â’i ewythr, yn edrych ymlaen at weld yr arddangosfa: “Er nad oedd yn difaru dim, rwy’n gwybod y byddai fy ewythr wedi hoffi cael mwy o gydnabyddiaeth yn ei wlad ei hun – fel Cymro brwd a llysgennad gwych i’w wlad. Mae’n biti na ddigwyddodd hyn yn ystod ei fywyd, er gwaethaf ei restr hir o orchestion ac anrhydeddau rhyngwladol.  

“Un o’r pethau olaf a ddywedodd wrthyf oedd ei fod yn gobeithio y byddai ei enw da yn parhau ymhell wedi iddo ein gadael. Teimlwn fod rhaid i mi wneud rhywbeth i sicrhau fy mod yn gwireddu ei ddymuniad olaf, felly cysylltais ag Amgueddfa Cymru yn fuan ar ôl ei farwolaeth. Mae’n bleser gwybod y bydd yn cael y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu diolch i’r arddangosfa hon, ac rydyn ni fel teulu yn hynod o ddiolchgar. Edrychwn ymlaen at ddathlu bywyd y dyn hynod hwn.”

Bydd yr arddangosfa, Andrew Vicari – Brenin o Baentiwr Brenhinoedd yn agor ar ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, gyda chefnogaeth y People’s Postcode Lottery.