Datganiadau i'r Wasg

Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn dathlu degawd gyda cherddoriaeth fyw gan BBC Gorwelion a Tafwyl

Heddiw, fe gyhoeddodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru bartneriaeth gyda BBC Gorwelion a Tafwyl i ddathlu pen-blwydd yr Ŵyl Fwyd yn 10 oed.

Bydd rhai o gerddorion mwyaf disglair Cymru yn swyno’r cynulleidfaoedd ar 7 ac 8 Medi.

Yn ogystal â llond gwlad o fwyd, diod a chrefftau, bydd rhaglen o berfformiadau byw cyffrous yn nifer o adeiladau hanesyddol yr Amgueddfa.

Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau Amgueddfa Cymru:

“Mae hon yn flwyddyn gyffrous i Ŵyl Fwyd Sain Ffagan, wrth inni gynnal y digwyddiad am y 10fed tro. Pa ffordd well o ddathlu’r achlysur, na chydweithio gyda Tafwyl a BBC Gorwelion i drefnu perfformiadau gan rai o gerddorion talentog Cymru?”

Dywedodd Bethan Elfyn, Rheolwr BBC Gorwelion:

“Rydym yn edrych ymlaen at ddod â cherddoriaeth i Sain Ffagan, a gweld yr amgueddfa’n dod yn fyw gyda seiniau Cymru gyfoes. Bydd hi’n gyffrous

dathlu diwylliant cyfoes Cymru ochr yn ochr â’i hanes. Eleni bydd llwyfannau newydd yn Llys Llywelyn, ar Lawnt Gwalia, yn y coed, ac yn Eglwys Sant Teilo. Mae’n argoeli i fod yn benwythnos i’w gofio.”

Dywedodd Aled Wyn Phillips o Tafwyl:

“Rydym yn teimlo’n hynod gyffrous i gydweithio gyda Sain Ffagan a BBC Gorwelion mewn gŵyl a lleoliad sydd mor eiconig ac unigryw.  Dyma gyfle gwych i ni ymestyn enw da Tafwyl a chyflwyno rhai o artistiaid cyfoes a gorau Cymru i gynulleidfa newydd.”

Ynghyd â’r gerddoriaeth, bydd cyfle i ymwelwyr â Sain Ffagan flasu a phrynu cynnyrch o dros 80 o stondinau ymysg yr adeiladau hanesyddol, a bara a chacennau o fecws yr Amgueddfa.

O brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd blasus, dyma rai o’r stondinau fydd yma i’ch temtio:

Cavavan, Williams Brothers Ciders, Pizza Ffwrnes, Grazing Shed, Pakora Pod, Fudge Pots, The Old Board Company, The Welsh Cheese Company,  The Welsh Confection, Blaenafon Cheddar Company, Ele’s Little Kitchen, Glam Lamb, Little Marakesh, Meat and Greek, Mr Croquewich, Stedman Brothers, The Queen Pepiada, Tram Dogs Street Food, Little Grandma’s Kitchen, Coity Bach ac Oasis.

Bydd yr Amgueddfa ar agor tan 7pm ar ddydd Sadwrn 7 Medi, er mwyn galluogi ymwelwyr i wneud y mwyaf o’r ŵyl.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar mai Sain Ffagan yw Amgueddfa’r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf – gwobr amgueddfaol fwyaf y byd.

Yn Hydref 2018, cwblhaodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru y project ailddatblygu mwyaf yn ei hanes. Gwireddwyd hyn diolch i nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF), Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Yn 2012 derbyniodd Sain Ffagan y grant mwyaf erioed i’r HLF ei rhoi yng Nghymru er mwyn adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy.

Bydd y rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr Amgueddfa yn nes at y digwyddiad.

Mae mynediad am ddim i Ŵyl Fwyd Sain Ffagan. Parcio yn £5. Gweler https://amgueddfa.cymru/sainffagan/digwyddiadau/10588/Gyl-Fwyd-10/ am fanylion.

DIWEDD