Datganiadau i'r Wasg

Dippy y deinosor yn dod i Gaerdydd

Bydd ymwelwyr i Gaerdydd yn cael cyfle unigryw i ddod wyneb yn wyneb â Dippy, sgerbwd deinosor Diplodocus eiconig yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain, wrth iddo ymgartrefu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 19 Hydref 2019 i 26 Ionawr 2020.

Mae Dippy ar daith ar draws Prydain, yn mentro allan o Lundain am y tro cyntaf ers 1905. Bydd yn ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghalon y ddinas - ac mae Dippy ar ymgyrch… i ysbrydoli pum miliwn o anturiaethau hanes natur, gan annog pawb i ymchwilio'r casgliadau hanes natur a bioamrywiaeth sydd ar garreg eu drws yng Nghaerdydd.

Cast yw Dippy, wedi'i greu o sgerbwd bron yn gyflawn gafodd ei ddarganfod yn Wyoming, America ym 1898. Mae'n cynnwys 292 asgwrn, ac yn 21.3 medr o hyd, 4.3 medr o led, a 4.25 medr o daldra.

Bydd gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd raglen gyffrous o ddigwyddiadau i gyd-fynd â Dippy ar Daith. Bydd cyfle i ymwelwyr ryfeddu at Dippy, ymweld â'n horielau hanes natur, mynd ar daith o ddechrau amser i'r presennol yn orielau Esblygiad Cymru, a dod wyneb yn wyneb â deinosoriaid a chreaduriaid o bob math.

Prosiect Amgueddfa Hanes Naturiol yw Dippy ar Daith, mewn partneriaeth â Sefydliad Garfield Weston gyda chefnogaeth Dell EMC a Williams & Hill, gan weithio gyda phartneriaid ledled y DU i osod un o'i arddangosion mwyaf eiconig ar daith am dros dair blynedd.

Mynediad am DDIM i bawb.

Darllenwch mwy am daith genedlaethol Dippy ar Daith yma: Dippy on Tour: A Natural History Adventure.

Gall y rheiny sy’n hoff o ddeinosoriaid ond sydd methu dod i weld Dippy dilyn ei daith gan gadw llygad ar @DippyonTour ar Twitter a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol partneriaid y daith Amgueddfa Hanes Naturiol ac ymweld â nhm.ac.uk/dippyontour

#DippyArDaith
#AnturHanesNatur