Datganiadau i'r Wasg

Parhau i arloesi!

Arddangosfa o ddyfeisiadau o Gymru

Mae'r ysbryd arloesol a roddodd Cymru ar flaen y gad ym maes dylunio'r 19eg ganrif yn fyw ac yn iach, ac yn dod i Abertawe!

Arddangosfa rad ac am ddim newydd gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yw Arloesi, a agorodd ar 12 Hydref i roi llwyfan i ddyfeisiadau sy'n mynd i lywio'n bywydau yn y 21ain ganrif.

O'r gard dannedd rhyngweithiol sy'n rhoi gwybodaeth fyw i'r hyfforddwr rygbi (ac yn cael ei brofi ar hyn o bryd gan y Gweilch), i'r 'concrid cynfas' a'r car hydrogen, mae Cymru'n llawn dyfeisgarwch.

Ymhlith uchafbwyntiau'r arddangosfa mae:

  • OPRO+ Mouthgard – gard dannedd clyfar gan Sports and Wellbeing Analytics o Abertawe, sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i gasglu data am nifer a chryfder y trawiadau i'r pen mewn chwaraeon
  • Cynllun a ddechreuodd ym Mhrifysgol Abertawe i droi ffilm plastig, gwastraff plastig du a thoddyddion hylif yn nanotiwbiau carbon sy'n dargludo trydan
  • ROOF Coatbag gan gwmni Red Dragon o Abertawe – cot  ar gyfer pobl ddigartref all droi'n sach gysgu a gwrthsefyll slaes gan gyllell
  • Team UnLimbited sy'n creu breichiau a choesau prosthetig ar argraffydd 3D o sied yng Nghlydach. Mae Stephen Davies a Drew Murray yn cyhoeddi eu cynlluniau am ddim ar lein, ac mae pobl o bob cwr o'r byd wedi eu lawrlwytho.
  • System danio newydd – a wneir yn Abertawe gan Dr Tyra Oseng-Rees - sy'n troi gwydr wedi'i ailgylchu yn ddeunydd adeiladu newydd sy'n ymddwyn fel carreg neu farmor
  • Car hydrogen – a adeiladwyd gan gwmni o Landrindod – sydd ddim yn llygru. Y prototeip i brofi'r syniad sydd yn yr arddangosfa, ond mae'r cwmni yn gobeithio bydd fersiwn ar gael i'w brynu'n fuan.
  • Concrete Canvas – deunydd hyblyg, llawn concrid all gael ei rolio fel carped mewn mannau lle mae'n anodd defnyddio concrid traddodiadol

"O awyren Robin Goch i locomotif stêm Penydarren, mae Cymru wastad wedi bod ar flaen y gad ym myd technoleg," meddai'r Swyddog Digwyddiadau Jacqueline Roach. "Mae'r arddangosfa yn dangos fod pobl ym mhob cwr yn datblygu syniadau mewn pob math o feysydd, o feddygaeth i hamdden, sy'n arddel ysbryd arloesol Cymru."

Bydd Arloesi ar agor rhwng 12 Hydref 2019 a 20 Ebrill 2020. Mynediad am ddim.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, gyda mynediad am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau. 

Mae un o’r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy’n archwilio hanes a diwylliant Cymru, wedi ennill Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru yn gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau a gweithgareddau gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.