Datganiadau i'r Wasg

Sut le fydd Cymru mewn 30 mlynedd?

Artist preswyl wedi’i benodi i weithio ar arddangosfa newydd yn Sain Ffagan

Mae Amgueddfa Cymru wedi penodi artist i gyd-guradu’r arddangosfa dros-dro gyntaf yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ers ailddatblygiad yr Amgueddfa.

Bydd Henry Alles yn gweithio gydag Arweinwyr Treftadaeth Ifanc Amgueddfa Cymru i ddatblygu’r arddangosfa newydd, fydd yn ystyried sut olwg fydd ar Gymru mewn 30 mlynedd.

Bydd Alles, gwneuthurwr theatr, cyfarwyddwr ac artist gweledol o’r Iseldiroedd, yn byw yn Sain Ffagan dros gyfnod y project tan fis Mehefin 2020.

Caiff yr arddangosfa ei chyd-guradu gan Arweinwyr Treftadaeth Ifanc yr Amgueddfa, a bydd yn tynnu ar eitemau o’r casgliad cenedlaethol, yn ogystal ag ymdrin â themâu cyfoes fel yr amgylchedd, hunaniaeth rhywedd, amrywiaeth a phrofiadau bywyd. 

Bydd Arweinwyr Treftadaeth Ifanc yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru i roi llais i bobl ifanc ar wahanol agweddau o waith y sefydliad. Byddant yn chwarae rôl allweddol yn natblygiad yr arddangosfa, yn cyd-hwyluso gweithdai creadigol ac yn datblygu gweithgareddau ymgysylltu.

Dywedodd Steve Burrows, Pennaeth Adeiladau Hanesyddol Amgueddfa Cymru:

“Bydd yr arddangosfa hon, wedi’i chreu ar y cyd ag Arweinwyr Treftadaeth Ifanc a Henry Alles, yn parhau â’r ffordd gyfranogol newydd o weithio yn Sain Ffagan.

“Mae’n broject cyffrous sy’n siŵr o roi persbectif unigryw i ni ar ddyfodol ein gwlad”.

Dywedodd Henry Alles:

“Mae’n fraint ac yn her cael fy mhenodi i weithio ar y project hwn. Edrychaf ymlaen at weithio gydag Arweinwyr Treftadaeth Ifanc er mwyn archwilio’r berthynas rhwng yr hen a’r newydd wrth i ni holi sut le fydd Cymru yn y dyfodol.”

Ym mis Gorffennaf cyhoeddwyd mai Sain Ffagan oedd Amgueddfa’r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf – gwobr amgueddfaol fwyaf y byd.

Yn Hydref 2018, cwblhaodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru y project ailddatblygu mwyaf yn ei hanes. Gwireddwyd hyn diolch i nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF), Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Yn 2012 derbyniodd Sain Ffagan y grant mwyaf erioed i’r HLF ei rhoi yng Nghymru er mwyn adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy.

Mae projectau ieuenctid ar draws Amgueddfa Cymru yn rhan o gynllun Dwylo ar Dreftadaeth, sy’n bosibl diolch i Grant Tynnu’r Llwch Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd yr arddangosfa yn agor ym mis Mehefin 2020. Bydd modd i ymwelwyr gael y diweddaraf am ddatblygiad yr arddangosfa ar wefan yr Amgueddfa www.amgueddfa.cymru/sainffagan ac ar Drydar @stfagans_museum a Facebook @stfagansmuseum.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, gyda mynediad am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Mae cyfleoedd i bawb gymryd rhan yn ein teulu o amgueddfeydd.  

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru yn gwerthfawrogi pob gefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau a gweithgareddau gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Diwedd