Datganiadau i'r Wasg

Cestyll: Paentiadau o'r Oriel Genedlaethol, Llundain i gael eu harddangos yng Nghymru

Paentiadau i gynnwys The Fortress of Königstein from the North gan Bernardo Bellotto

Paentiad o'r enw 'The Fortress of Königstein from the North' gan Bernardo Bellotto

Bernardo Bellotto. The Fortress of Königstein from the North. © The National Gallery, Llundain. Prynwyd gyda gyda chymorth Cyfeillion Americanaidd yr Oriel Genedlaethol, Ymddiriedolaeth yr Oriel Genedlaethol, Ystâd Mrs Madeline Swallow, Y Gronfa Gelf (gyda chyfraniad gan Sefydliad Wolfson), Howard a Roberta Ahmanson, Sefydliad Deborah Loeb Brice, Mrs Mollie W. Vickers, Sefydliad Elusenol Manny a Brigitta Davidson, Ymddiriedolaeth Sackler a thrwy apêl breifat, 2017.

Yn 2017 prynwyd The Fortress of Königstein from the North gan Bellotto ar gyfer y genedl gan yr Oriel Genedlaethol, Llundain. Mae ymhlith tirluniau mwyaf gwreiddiol a thrawiadol y 18fed ganrif. Fel rhan o ymrwymiad yr Oriel Genedlaethol i agor ei chasgliad i gynulleidfa ehangach bydd y gwaith hwn, a phum paentiad arall o gestyll, yn teithio i leoliadau ar draws y DU yn 2020 a dechrau 2021.

 

Drwy gasglu ynghyd gestyll real a dychmygol, bydd y daith hon i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa a Gerddi Gaeaf Sunderland, ac Amgueddfa Castell Norwich yn dyst i bosibiliadau creadigol cestyll i artistiaid dros 500 mlynedd.

 

Dywedodd Dr Gabriele Finaldi, Cyfarwyddwr yr Oriel Genedlaethol: “Crëwyd yr Oriel Genedlaethol er budd pobl Prydain, ond rhaid cofio taw nid pawb sy'n medru teithio i Lundain. Gobeithio y bydd taith Cestyll: Paentiadau o'r Oriel Genedlaethol, Llundain yn cyflwyno'r campweithiau yma i bob sydd heb weld y casgliad cenedlaethol erioed, neu ers blynyddoedd, ac yn cael eu hysbrydoli i ymweld neu ddychwelyd drachefn. Edrychwn ymlaen at weld y gweithiau yn cael eu cyflwyno mewn gwahanol leoliadau.”

 

Mae gan baentiadau o gestyll le allweddol yng nghasgliad yr Oriel Genedlaethol. Mae rhai – fel adfail Ubbergen Castle gan Albert Cuyp neu Castle of Muiden in Winter gan Jan van Beerstraaten – yn bortreadau o gestyll real sy'n cyfleu eu cyflwr, eu cymeriad a'u naws. Mae eraill yn gestyll dychmygol sy'n gynfas i hanesion o'r Hen Rufain, fel  Enchanted Castlegan Claude, neu fyth Cristnogol megis Saint George and the Dragongan Gustave Moreau. Trosiad yw cerrig castell mewn gweithiau eraill. Yn Adoration of the Kings gan Gerard David mae adfeilion muriau'r castell yn cynrychioli cwymp paganiaeth yn wyneb twf Cristnogaeth.

 

Bydd Cestyll: Paentiadau o'r Oriel Genedlaethol, Llundain yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd tu hwnt i Lundain weld y gweithiau yma, a hynny yng nghysgod cestyll lleol Caerdydd, Hylton yn Sunderland, a Norwich.

 

Dywedodd Stephen Deuchar, Cyfarwyddwr y Gronfa Gelf: "Mae'n fraint cyfrannu at gaffael y paentiad pwerus a phwysig hwn, ac rydym yn edmygu menter a dycnwch yr Oriel Genedlaethol yn ei gyflwyno i gynulleidfa mor eang drwy gyfrwng y daith yn 2020-21."

 

 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cestyll y Dychymyg: Paentiadau o'r Oriel Genedlaethol, Llundain

28 Ionawr - 10 Mai 2020

Lleoliad cyntaf y daith fydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd The Fortress of Königstein from the North (1756-8) gan un o feistri celf Fenis, Bernardo Bellotto, a detholiad o weithiau eraill Hen Feistri Ewrop i'w gweld yng Nghymru am y tro cyntaf.

 

Gwlad o gestyll yw Cymru, gyda dros chwe chant yma yn dyst i hanes gythryblus y genedl. Defnyddiwyd motiff y castell gan nifer o artistiaid adnabyddus i bortreadu tirlun gwyllt, urddasol a rhamantaidd Cymru. At hyn, bydd Cestyll y Dychymyg yn ategu ac amlygu cyfoeth ac amrywiaeth y dehongliadau yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru a gweld cestyll o ddau gasgliad cenedlaethol gyda'i gilydd yn ein hannog i feddwl yn fentrus o'r newydd am eu dehongliad.

 

Fel rhan o'r dehongliad byddwn yn gwahodd plant ysgol i esbonio beth mae cestyll yn ei olygu iddyn nhw, ac i ymateb yn greadigol i waith Bellotto. Gan weithio gydag artist, bydd y plant yn creu GIFs i'w dangos ar sgrîn yn yr arddangosfa.

 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru: "Pleser yw cydweithio â'r Oriel Genedlaethol i ddathlu caffael un o dirluniau mwyaf allweddol Ewrop. A pha le gwell i'w arddangos i gynulleidfa newydd am y tro cyntaf nag yng Nghymru, gwlad y cestyll?  Ynghyd â lluniau eraill o'r Oriel Genedlaethol, bydd yn ategu gweithiau Hen Feistri Ewrop yn yr Amgueddfa a'i chasgliad o baentiadau o gestyll Cymru. Bydd yr arddangosfa a'i rhaglen o ddigwyddiadau cyhoeddus amrywiol yn tynnu ar yr hunaniaeth a'r hanes sy'n clymu cymunedau ledled Cymru â'u cestyll lleol."