Datganiadau i'r Wasg

Gwaith adfer ar Offer Weindio eiconig Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Mae un o symbolau mwyaf amlwg ac eiconig y diwydiant glo a'i dreftadaeth gyfoethog yn cael gofal hir-ddisgwyliedig.

 

Yn ystod mis Medi bydd offer weindio Big Pit yn gweld gwaith atgyweirio, glanhau a phaentio. Cefnogir y project gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a grant adfer gan y Gymdeithas Archaeoleg Ddiwydiannol.

Mae angen gwaith adfer ar yr offer i osgoi niwed a chyrydu, ac wedi ei gwblhau bydd yn sicrhau y gall ymwelwyr barhau i fwynhau profiad tanddaearol unigryw yr Amgueddfa, a Big Pit yn medru parhau i adrodd hanes pwysig dylanwad y pyllau glo ar gymunedau, cymdeithas a'r byd diwydiannol.

Penodwyd y cwmni adfer arbenigol o Ben-y-bont, JJ Williams Ltd, i gwblhau'r gwaith angenrheidiol. Yn ddiweddar, coronwyd y cwmni'n Bencampwyr y Categori Adfer yn 36ain Gwobr Flynyddol Paentiwr y Flwyddyn Johnstone's am eu gwaith ar Arcêd Fictoraidd y Castell yng Nghaerdydd. Nhw hefyd a ddewiswyd yn enillwyr yr holl ŵyl.

Dywedodd Huw Jones, Rheolwr Glofa Big Pit; "Rydyn ni wrth ein bodd bod y gwaith adfer hanfodol yn dechrau ac yn hynod ddiolchgar i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a'r Gymdeithas Archaeoleg Ddiwydiannol am eu cefnogaeth hael a charedig. Pleser fydd gweithio gyda JJ Williams Ltd – a pwy well i adfer a chynnal strwythur eiconig Cymreig fel hwn na chwmni a sefydlwyd gan Gymro eiconig!"

Dywedodd Richard Bellamy, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cymru: "Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae grantiau Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi enghreifftiau gwych o dreftadaeth ddiwydiannol Prydain sydd nid yn unig wedi creu cwnedl, swyddi a ffyniant economaidd, ond hefyd sydd wedi dylanwadu ar y byd. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn falch o gefnogi a diogelu treftadaeth ddiwydiannol  Big Pit Amgueddfa Lofaol Genedlaethol  a fydd yn trosglwyddo profiadau a chyflawniadau’r gorffennol i genedlaethau’r dyfodol."

 

Er y bydd yr Offer Weindio a'r Teithiau Tanddaearol yn oedi rhwng 2-29 Medi, bydd Big Pit yn parhau ar agor i'r cyhoedd, gan ddarparu teithiau tywys ar yr wyneb a gwybodaeth am y gwaith adfer, a bydd holl adeiladau eraill y pwll i gyd ar agor gan gynnwys y Baddondai Pen Pwll, y Storfeydd Cadwraeth, y Ffreutur a'r Siop, Tŷ'r Ffan a'r Efail. Bydd arddangosfa gelf newydd hefyd i'w gweld o 15 Medi, Yama – Cwningod y Glofeydd a Menywod Pigo Glo detholiad o baentiadau a darluniau o byllau glo Japan gan Sakubei Yamamoto.

Mae mynediad i Big Pit, y teithiau tywys ar yr wyneb, yr arddangosfeydd a'r adeiladau i gyd AM DDIM.

Diwedd

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Enw: Kathryn Jenkins

Teitl Swydd: Swyddog Cyfathrebu Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Rhif ffôn: 029 2057 3666

E-bost: kathryn.jenkins@amgueddfacymru.ac.uk

 

Nodiadau i Olygyddion:

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.    

Mae cyfleoedd i bawb gymryd rhan yn ein teulu o amgueddfeydd.  

Dewch yn rhan o stori Cymru ar-lein neu dilynwch ni ar Twitter, Instagram neu Facebook.

Y Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi arian i helpu pobl ledled y DU i archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth y maent yn gofalu amdani- o’r archaeoleg dan ein traed i’r parciau ac adeiladau hanesyddol rydym yn caru, o atgofion gwerthfawr a chasgliadau i fywyd gwyllt prin. www.heritagefund.org.uk

 

 

#museumcare

Mae'r project hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus Amgueddfa Cymru i wella ac adfer ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth ar amgueddfa.cymru/museumcare