Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru y penodi Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil newydd

Mae Amgueddfa Cymru’n falch o gyhoeddi penodiad Kath Davies yn Gyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil newydd i’r sefydliad, wrth iddo ddechrau datblygu strategaeth ddeng mlynedd newydd. Mae Kath wedi ymuno ag Amgueddfa Cymru'r mis hwn (Ionawr 2020), ar ôl gadael ei swydd yn aelod o Uwch Dîm Arwain Cyngor Celfyddydau Cymru, a bydd yn gyfrifol am yr adrannau Celf, Hanes ac Archaeoleg, y Gwyddorau Natur a Gwasanaethau Casgliadau.

Bydd Kath Davies yn gyfrifol am dîm o 120 o aelodau staff sy’n gofalu am 5 miliwn a mwy o wrthrychau yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru, sy’n ymestyn ar draws wyth o safleoedd ac yn cynnwys popeth o folysgiaid a gwaith Monet i decstilau ac offer llaw.

Bydd Kath Davies yn dod â chyfoeth o brofiad i Amgueddfa Cymru, a hithau wedi gweithio yn sector y celfyddydau yng Nghymru am 20 mlynedd a mwy. Tan ei phenodiad, roedd Kath yn aelod o Uwch Dîm Arwain Cyngor Celfyddydau Cymru gan arwain y tîm Ariannu’r Celfyddydau a oedd yn cynnwys cyfrifoldeb dros raglenni Cymorth Grant, Portffolio Celfyddydau Cymru, Ymchwil a Gwerthuso, Gwasanaethau Gwybodaeth a Chyfalaf. Hefyd, cyflwynodd Kath Raglen Wytnwch uchelgeisiol ar draws Cymru gyfan a oedd yn canolbwyntio ar wella cynaliadwyedd sefydliadau celfyddydol.

Yn ystod ei chyfnod gyda Chyngor y Celfyddydau bu Kath yn arwain cynlluniau uchelgeisiol gan gynnwys datblygu Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd, Theatr y Mwldan yn Abertiefi a Galeri yng Nghaernarfon. Yna, bu hefyd yn goruchwylio’r gwaith o ailddatblygu Canolfan Grefft Rhuthun, Oriel Davies yn y Drenewydd, Plant y Cymoedd yn Tonypandy, Sherman Cymru yng Nghaerdydd a chanolfan Pontio, Bangor.

Yn wreiddiol o Ystradgynlais yng Nghwm Tawe, graddiodd Kath o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Hanes a Hanes Cymru. Treuliodd rhan gyntaf ei gyrfa yn y sector amgueddfeydd ac yn dilyn prentisiaeth blwyddyn gydag Amgueddfa Cymru, cafodd Kath swydd fel Swyddog Ymchwil ac Amgueddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn. Roedd yn rhan o’r gwaith o sefydlu Oriel Ynys Môn, Llangefni ac yn gyfrifol am y rhaglen arddangosfeydd. Yn ystod y cyfnod hwn, cwblhaodd Kath MA mewn Astudiaethau Amgueddfeydd ym Mhrifysgol Caerlŷr gan ennill diploma hefyd mewn curadu hanes cymdeithasol gan y Gymdeithas Amgueddfeydd.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Mae’n bleser gen i groesawu Kath i Amgueddfa Cymru a gwn y byddwn yn elwa o’i phrofiad eang a’i brwdfrydedd yn y sector amgueddfeydd ac orielau. Mae’n gyfnod cyffrous wrth i ni gychwyn ar ein cynllun strategol deng mlynedd newydd ar gyfer Amgueddfa Cymru, a fydd yn cael ei ddatblygu dros y flwyddyn nesaf. 

“Mae casgliadau cenedlaethol Cymru a’n gweithgarwch ymchwil yn elfen greiddiol o’n gwaith, ac yn ein galluogi i gyflawni dros bobl Cymru a thu hwnt. Edrychwn ymlaen at gydweithio â Kath er mwyn datblygu casgliad Amgueddfa Cymru ymhellach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”    

Meddai Kath Davies:

“Braint o’r mwyaf yw cael ymuno â thîm Amgueddfa Cymru yn y cyfnod cyffrous hwn yn ei hanes. Edrychaf ymlaen at gydweithio â chydweithwyr ledled Cymru er mwyn datblygu a gweithredu Cynllun Strategol cadarn ac uchelgeisiol. Pobl Cymru sy’n berchen ar gasgliadau cyfoethog ac amrywiol yr Amgueddfa ac rydw i’n teimlo’n angerddol dros sicrhau y gall cymaint o bobl â phosibl eu mwynhau a’u defnyddio i adrodd eu straeon eu hunain.” 

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

 

Enillodd un o amgueddfeydd y teulu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru wobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, rydyn ni'n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery.

 

Diwedd