Datganiadau i'r Wasg

Lansio Cynllun Aelodaeth newydd Amgueddfa Cymru

Lansio Cynllun Aelodaeth newydd Amgueddfa Cymru

Mae Amgueddfa Cymru wedi lansio cynllun aelodaeth newydd sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr â saith amgueddfa genedlaethol Cymru fanteisio ar gynigion a gostyngiadau unigryw.

Lansiwyd y cynllun aelodaeth yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, sydd newydd ailagor yn dilyn 14 mis ar gau oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol.

Lansiwyd y cynllun er mwyn denu cynulleidfa ehangach i saith amgueddfa genedlaethol Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru. Mae mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd hyn diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r buddion i aelodau yn cynnwys:

  • 10% o ostyngiad yn y siop a'r caffi i Aelodau – ynghyd â chynigion a chyfleoedd siopa arbennig eraill
  • Cael gwybodaeth ymlaen llaw am ddigwyddiadau a gostyngiadau arbennig i Aelodau
  • Mynediad i ddigwyddiadau unigryw
  • Mynediad am ddim i arddangosfeydd lle codir tâl
  • Cerdyn a llyfryn Aelodaeth
  • Cylchlythyr digidol chwarterol

Mae aelodaeth Amgueddfa Cymru yn costio £76 ar gyfer aelodaeth Teulu (dau oedolyn ac unrhyw nifer o blant), £60 ar gyfer Cyd-aelodaeth (dau berson) a £48 ar gyfer aelodaeth Unigol.

Am gyfnod penodol, caiff y 150 aelodaeth Teulu cyntaf fanteisio ar gynnig cychwynnol arbennig i ychwanegu aelodaeth blwyddyn i deulu gyda Cadw am bris gostyngedig. Bydd aelodaeth teulu am flwyddyn ar gyfer y ddau sefydliad yn costio £120, gan roi mynediad i holl safleoedd Cadw a holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, ynghyd â'n helpu ni i ddiogelu amgylchedd adeiledig hanesyddol Cymru.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

"Rydym yn falch iawn o allu cynnig y cynllun aelodaeth newydd sbon hwn i'n hymwelwyr ffyddlon niferus.Mae amgueddfeydd yn perthyn i bawb, a dyma egwyddor sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydyn ni’n gweithio bob dydd er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru trwy eich annog i gymryd rhan mewn diwylliant.

"Trwy ddod yn aelod o'n teulu ni, gobeithiwn y bydd pobl yn darganfod ffyrdd newydd o fwynhau ein hamgueddfeydd a chael eu hysbrydoli ganddynt.”

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, “Rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn manteisio ar y cynllun aelodaeth newydd hwn ac rwy'n falch iawn o weld y partneriaethau rhwng ein sefydliadau treftadaeth, fydd yn caniatáu i bobl ddarganfod mwy o'n treftadaeth hanesyddol. Bydd y system hefyd yn galluogi Amgueddfa Cymru i gryfhau cysylltiadau gydag ymwelwyr a chwsmeriaid, gan sicrhau eu bod yn gallu creu perthynas fwy deinamig a hirdymor â nhw yn dilyn eu hymweliadau. Rwy'n falch iawn o gefnogi'r fenter hon. "

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen gofrestredig, a thrwy ymaelodi bydd Aelodau yn cefnogi ein gwaith. Rydym wedi bod wrth wraidd y celfyddydau, treftadaeth a'r gwyddorau naturiol yng Nghymru ers cenedlaethau. Gyda'i gilydd, bydd ein haelodau yn cefnogi staff a gwirfoddolwyr Amgueddfa Cymru i ofalu am y casgliadau cenedlaethol, sy'n eiddo i bobl Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o amgueddfeydd y teulu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf 

Fel elusen gofrestredig, rydyn ni'n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery. 

Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru wedi'i lleoli o fewn adfeilion y gaer Rufeinig, sy'n cynnwys yr unig olion o farics y Lleng Rhufeinig unrhyw le yn Ewrop, a'r Amffitheatr fwyaf cyflawn ym Mhrydain.

Diwedd