Datganiadau i'r Wasg

Caerdydd yn ffarwelio â Dippy yn dilyn cyfnod llwyddiannus

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi ffarwelio â Dippy y Diplodocus, cast sgerbwd deinosor enwocaf Amgueddfa Hanes Natur, Llundain, sydd wedi bod yn aros yn yr amgueddfa yng Nghaerdydd am y tri mis diwethaf. (19 Hydref nes 26 Ionawr.)

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi ffarwelio â Dippy y Diplodocus, cast sgerbwd deinosor enwocaf Amgueddfa Hanes Natur, Llundain, sydd wedi bod yn aros yn yr amgueddfa yng Nghaerdydd am y tri mis diwethaf. (19 Hydref nes 26 Ionawr.)

Mae Dippy ar Daith: Antur Hanes Natur yn digwydd diolch i bartneriaeth rhwng yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain â Sefydliad Garfield Weston, gyda chymorth Dell EMC a Williams & Hill. Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y DU mae un o wrthrychau mwyaf eiconig yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain ar daith am dair blynedd. 

Derbyniodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gymorth hael gan Admiral a Great Western Railway er mwyn dod â Dippy i Gymru. Diolch i'w cefnogaeth nhw, gall teuluoedd ddod at ei gilydd i brofi'r arddangosfa unwaith mewn oes hon.

Fe wnaeth yr amgueddfa groesawu 213,740 o ymwelwyr yn ystod ei gyfnod yno, sy’n gynnydd o 42% ar gyfartaledd wrth gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn gynt.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Mae cannoedd ar filoedd o bobl dros Gymru a thu hwnt wedi mwynhau gweld Dippy yng Nghaerdydd ac wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau Dippy yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

“Mae hi wedi bod yn galonogol i weld sut mae’r arddangosfa wedi ysbrydoli ymwelwyr o bob oedran i archwilio, darganfod a dysgu sut allen nhw gymryd rhan a gwarchod natur ar eu stepen ddrws.

“Ry’n ni’n drist i weld Dippy yn ein gadael, roedd yn edrych yn ysblennydd yn ein prif Neuadd ond ry’n ni hefyd yn gwybod y bydd yn dod â gwen i lawer mwy o bobl wrth iddo barhau â’i daith o amgylch y DU”.

Mae dros 12,441 o blant ysgol o 282 ysgol ar draws y wlad wedi mwynhau teithiau tywys i weld Dippy yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Ochr yn ochr ag arddangosfa Dippy, fe wnaeth fforwm ieuenctid yr Amgueddfa feddiannu un o orielau'r Amgueddfa. Yn y gofod hwn, creodd y bobl ifanc gerfluniau o ddeinosoriaid a chreaduriaid diflanedig eraill o ddillad ail law fel ymateb i effaith ffasiwn ffwrdd â hi a gwastraff ar ein hamgylchedd.

Mae dros 1.5 miliwn o bobl nawr wedi ymweld â Dippy ar Daith: Antur Hanes Natur mewn chwe lleoliad.

Meddai Philippa Charles, Cyfarwyddwr Sefydliad Garfield Weston:

“Bwriad Dippy yw ysbrydoli pobl i ddarganfod y byd natur sydd o’u cwmpas ac ystyried beth yw ei rôl nhw yn ei warchod – mae hyn yn fwy pwysig nawr nag erioed. Ry’n ni wrth ein bodd bod Dippy wedi cyflawni ei dasg mewn ffordd mor llwyddiannus yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac ry’n ni’n gwybod ei fydd yr un mor boblogaidd yn ei gartref newydd yn Rochdale.”