Datganiadau i'r Wasg

Ydych chi eisiau gweithio mewn pwll glo? Dewch i ymuno â ni i adrodd stori glo.

Mae Cynllun Crefft Mwyngloddio Big Pit yn mynd o nerth i nerth a hithau’n drydedd flwyddyn y cynllun, mae Big Pit yn falch o gyhoeddi bod tair Prentisiaeth Crefft Mwyngloddio newydd yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd. Mae ymwelwyr i Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon yn rhoi sylwadau positif am y Tywyswyr Glofa. Mae gan lawer ohonynt brofiad uniongyrchol ac mae'r Amgueddfa'n edrych i drosglwyddo'r wybodaeth hon i'w recriwtiaid newydd.

Cyflwynwyd y cynllun yn gyntaf yn 2017, ac mae wedi llwyddo i ddenu saith Prentis Crefft Mwyngloddio a dau Brentis Peirianneg, gyda’r bwriad o gyflenwi cenhedlaeth newydd o staff yn yr amgueddfa fyd-enwog.

Mae’r prentisiaethau’n rhan o gynllun olyniaeth Big Pit er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu parhau i fwynhau a dysgu am hanes diwydiant glo’r genedl. Mae’r prentisiaethau hefyd yn rhan o ymrwymiad parhaus Amgueddfa Cymru i wella’r sylfaen sgiliau traddodiadol yng Nghymru, ac mae wedi derbyn cyfran o gefnogaeth ariannol gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae gan y naw prentis hyd yn hyn – sy’n cynnwys pedwar mab i gyn-löwr a’n prentis mwyngloddio benywaidd cyntaf – un ai gysylltiad personol â’r diwydiant glo neu ddiddordeb mawr yn y maes.

Ben Monroe a Dai Powell oedd y ddau Brentis Crefft Mwyngloddio cyntaf, ac mae’r ddau erbyn hyn yn dywyswyr tanddaearol cymwys, yn rhan o Dîm Achub y Pyllau, ac yn astudio i gwblhau cwrs Goruchwylio NVQ Lefel 4.

Dywedodd Ben, “Roeddwn i’n gweld fod hwn yn gyfle unigryw i wella fy sgiliau a dysgu am ddiwydiant sydd bellach bron â darfod.”

Yn ôl Dai, “Mae’n gyfuniad o ddysgu sgiliau a gwybodaeth, mewn amgylchedd hwyliog ac ymlaciol – mae’n lle gwych i fod!”

Ymunodd Lee Thomas ac Emma Long fel prentisiaid yn 2017. Roedd tad Lee, Peter, yn gweithio yng nglofeydd Deep Navigation a Penallta, ac Emma yw’r unig Dywysydd Glofa benywaidd, hyd yn hyn.

Dywedodd Lee, “Rwy’n gweithio gyda phobl wych yn Big Pit, maen nhw wastad yn barod i rannu eu gwybodaeth a fy helpu i wella fy nealltwriaeth.”

Ychwanegodd Emma, “Cefais fy annog gan fy ffrindiau i wneud cais, ac fe fydda i’n ddiolchgar iddyn nhw am byth. Mae prentisiaethau yn hollbwysig ac wrth galon y profiad gwych mae ymwelwyr yn ei gael yn Big Pit.”

Am fwy o wybodaeth, disgrifiad swydd a ffurflen gais, ewch i dudalen Swyddi ar www.amgueddfa.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Mawrth 2020.