Datganiadau i'r Wasg

Datganiad COVID-19 gan Amgueddfa Cymru

Mae holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru ar gau i’r cyhoedd er mwyn diogelu iechyd a lles staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.

 

·        Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lechi Cymru; Amgueddfa Wlân Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau; a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru yn aros ar gau nes i’r cyngor swyddogol newid.

·        Rydym yn helpu staff i weithio o adref lle bo’n bosibl, fodd bynnag mae angen rhai cydweithwyr i reoli diogelwch casgliadau cenedlaethol Cymru.

·        Mae pob rhaglen gyhoeddus, ymweliad ysgol a digwyddiadau cyhoeddus a phreifat wedi’u canslo. Bydd modd cael ad-daliad llawn ar docynnau a brynwyd.

 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

 

“Roedd yn benderfyniad anodd i gau ein holl amgueddfeydd, ond iechyd a lles ein staff, ymwelwyr a gwirfoddolwyr yw ein blaenoriaeth ar hyn o bryd.

“Mae Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru fel arfer yn llefydd diogel i bobl o bob oed eu defnyddio at wahanol ddibenion. Rydym yn gwybod y bydd cau yn cael effaith ar ein cymunedau, ond yn anffodus mae’n gam angenrheidiol mewn cyfnod eithriadol.

“Tra bydd ein hadeiladau ar gau, bydd ein presenoldeb digidol yn dal i dyfu ac yn parhau i ysbrydoli pobl Cymru a thu hwnt. Cadwch olwg ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf, wrth i ni barhau ein gwaith fel eich Amgueddfa Genedlaethol.”

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gydag ymwelwyr ar ein gwefan www.amgueddfa.cymru ac ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rydym yn cyfathrebu’n gyson â’n rhanddeiliaid allweddol

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o amgueddfeydd y teulu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru wobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, rydyn ni'n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Taylor, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, catrin.taylor@amgueddfacymru.ac.uk / 07920 027067.