Datganiadau i'r Wasg

Datganiad ynghylch ailagor

“Mae saith amgueddfa genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol ar gau ar hyn o bryd oherwydd pandemig COVID-19. Iechyd a lles ein hymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr yw ein blaenoriaeth ac felly bydd ein safleoedd ar gau nes mae’n ddiogel i ni ailagor.

 

“Heddiw (dydd Gwener 10 Gorffennaf 2020) cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y bydd modd i sinemâu, amgueddfeydd ac orielau ailagor o 27 Gorffennaf.

 

“Rydym yn bwriadu ailagor tiroedd awyr-agored Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am bedwar diwrnod yr wythnos (Mawrth, Iau, Sadwrn a Sul) o 4 Awst. Bydd yn brofiad gwahanol i ymwelwyr gan y bydd rhaid i’r tai hanesyddol a’r ardaloedd chwarae aros ar gau oherwydd y cyfyngiadau presennol. Bydd angen i ymwelwyr archebu tocyn o flaen llaw drwy ein gwefan (www.amgueddfa.cymru) neu dros y ffon.

 

“Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw, rydym hefyd yn bwriadu ailagor amgueddfeydd cenedlaethol eraill Cymru yn raddol. Bydd hyn yn digwydd mewn dau gam, a bydd yn dibynnu ar gyfraddau’r feirws dros yr wythnosau nesaf:

 

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ailagor yn ystod wythnos 24 Awst.
  • Amgueddfa Wlân Cymru, Big Pit ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru i ailagor o 1 Medi.

 

“Byddwn yn rhannu manylion pellach ar ein gwefan (www.amgueddfa.cymru) a’n cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf.

 

“Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein holl amgueddfeydd yn llefydd diogel i staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr pan fyddant yn ailagor, gyda chanllawiau ar bellter cymdeithasol yn cael eu dilyn a nifer yr ymwelwyr yn cael ei reoli. Mae hyn yn cynnwys system archebu newydd oherwydd, er y bydd mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd yn parhau, bydd gofyn i ymwelwyr archebu ymweliad ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eu siomi.

 

“Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn adolygu sut y gallwn gefnogi ein cymunedau trwy’r cyfnod anodd hwn – o bell, a phan fyddwn yn gallu ailagor ein hamgueddfeydd. Rydym wedi lansio apêl gyhoeddus newydd a phroject digidol enfawr i gasglu profiadau trigolion Cymru yn ystod COVID-19: https://amgueddfa.cymru/casglu-covid/

 

“Fel elusen, mae sefydlogrwydd ariannol Amgueddfa Cymru hefyd yn flaenoriaeth. Ar hyn o bryd rydym yn colli tua £400k o incwm y mis. Rydym ar gau i’r cyhoedd, a hyd yn oed pan fyddwn yn ailagor fydd dim modd i ni adfer y colledion hyn yn llwyr oherwydd y canllawiau ynghylch ymbellhau cymdeithasol. Rydym felly wedi cymryd camau eraill i warchod y sefydliad, gan roi dros 40% o’n staff ar ffyrlo trwy Gynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU, a gweithio gyda’n noddwyr i ganfod ffynonellau incwm eraill. Bydd y gwaith hwn yn parhau ac rydym yn ddiolchgar am unrhyw gymorth i’n helpu i barhau i weithio gyda chymunedau Cymru a chyflawni ein rôl fel amgueddfa genedlaethol Cymru.”