Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru i gynnal Gŵyl Fwyd rithwir

Heddiw cyhoeddodd Amgueddfa Cymru ei bod am gynnal gwyl fwyd ar-lein ar 12 ac 13 Medi, yn lle’r Ŵyl Fwyd flynyddol sydd fel arfer yn cael ei chynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

O ganlyniad i gyfyngiadau COVD-19, ni ellir croesawu’r 25,000 o ymwelwyr arferol i Ŵyl Fwyd Sain Ffagan.

Bydd Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru ar ei newydd wedd yn cael ei chynnal ar wefan yr Amgueddfa, Facebook, Instagram, Twitter a Crowdcast. Mae’r rhaglen yn llawn gweithgareddau i bobl o bob oed sy’n caru bwyd, gan cynnwys sgyrsiau, sesiynau blasu ac arddangosiadau coginio. Cynhelir sesiwn flasu cwrw a seidr Cymreig ar y cyd â Cywain, sesiwn bobi gyda One Mile Bakery, trafodaeth ar ddyfodol bwyd yng Nghaerdydd wedi’i gyflwyno gan Food Cardiff, a llawer mwy.

Bydd digonedd o weithgareddau i blant hefyd, gan gynnwys sgiliau syrcas a sesiynau adrodd stori.

Mae’r Amgueddfa hefyd wedi cydweithio eto â Gorwelion BBC a Tafwyl i ddod â cherddoriaeth fyw i’ch ystafell fyw!

Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau Amgueddfa Cymru:

“Mae’n bleser cyflwyno ein gŵyl fwyd rithwir gyntaf. Mae’r Ŵyl Fwyd flynyddol yn un o uchabfwyntiau calendr Amgueddfa Cymru, ac roedden ni am gadw cysylltiad â’n cynulleidfa. Gall pobl ymuno â ni o bob cwr o Gymru a thu hwnt i fwynhau gŵyl fwyd o gartref. Bydd amrywiaeth o gynhyrchwyr a chogyddion yn ymuno â ni dros y penwythnos er mwyn rhannu ryseitiau, cyngor craff ac ysbrydoliaeth.

Drwy gydweithio y llynedd gyda Gorwelion BBC a Tafwyl rhoddwyd llwyfan i rai o dalentau cerddorol gorau Cymru, ac mae’n fraint cael cydweithio eto eleni.”

Dywedodd Bethan Elfyn, Rheolwr Project Gorwelion BBC:

“Mae’n bleser cydweithio ag Amgueddfa Cymru eto eleni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at yr her o gynnal a mwynhau yr ŵyl a’r gerddoriaeth mewn ffyrdd newydd.”

Dywedodd Nick Macleod o One Mile Bakery, fydd yn cynnal sesiwn bobi yn ystod y penwythnos:

"Mae’n wych cael ymwneud â’r Ŵyl Fwyd eto eleni. Er ei bod hi’n siom methu cynnal y cwrs pobi yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru fel y llynedd, mae’r ŵyl ddigidol yn gyfle cyffrous. Rydyn ni’n edrych ymlaen.”

Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond codir tâl am rai digwyddiadau gyda thocynnau.

Bydd rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr Amgueddfa cyn y digwyddiad.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, gyda mynediad am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Mae un o’r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy’n archwilio hanes a diwylliant Cymru, wedi ennill Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru yn gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau a gweithgareddau gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Diwedd