Datganiadau i'r Wasg

Ailagor amgueddfeydd cenedlaethol Cymru yn raddol

Mae Amgueddfa Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yn dechrau ailagor yr amgueddfeydd cenedlaethol i’r cyhoedd, gan ddechrau gyda thiroedd awyr agored Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019, o  ddydd Mawrth 4 Awst.

Rhaid i bob ymwelydd archebu eu hymweliad am ddim ymlaen llaw, ar-lein. Mae hyn er mwyn rheoli niferoedd a sicrhau diogelwch ymwelwyr, staff, gwirfoddolwyr a chymunedau lleol. Rydym yn gofyn hefyd i ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb wrth ymweld er lles staff ac ymwelwyr.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru (awyr agored yn unig) fydd y cyntaf o’n saith amgueddfa genedlaethol i ailagor ar ddydd Mawrth 4 Awst a bydd ar agor bob dydd Mawrth, Iau, Sadwrn a Sul (archebu ymlaen llaw). Bydd yr adeiladau hanesyddol a’r orielau yn aros ar gau am y tro oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

Bydd cyfleusterau fel y caffi, a rhai ardaloedd eraill o’r Amgueddfa, hefyd ar gau am y tro.

Bydd yr holl amgueddfeydd eraill yn agor am nifer cyfyngedig o ddyddiau, a gyda archebu ymlaen llaw, ar y dyddiadau hyn:

Amgueddfa Lechi Cymru – dydd Sul 23 Awst

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – dydd Iau 27 Awst

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – dydd Gwener 28 Awst

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru – dydd Mawrth 1 Medi

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru – dydd Mercher 2 Medi

Amgueddfa Wlân Cymru – dydd Iau 3 Medi

Er mwyn sicrhau bod profiad ymwelwyr mor ddiogel a dymunol â phosibl, mae Amgueddfa Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau newydd. Mae rhain yn cynnwys rheoli nifer ymwelwyr ar y safle drwy gyflwyno archebu ymlaen llaw, arwyddion ymbellhau cymdeithasol drwy’r gofodau cyhoeddus, systemau unffordd a mwy o lanhau.

Gall ymwelwyr ddilyn Amgueddfa Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol neu’r wefan am fanylion ar sut i archebu a beth i’w ddisgwyl, www.amgueddfa.cymru.

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn cefnogi busnesau lleol drwy brynu PPE a chyfarpar hylendid yn ystod y pandemig. Daeth y gorsafoedd hylendid a hylif diheintio gan Chemsol Cymru yng Nghonwy, a’r tariannau wyneb PPE i staff o DMM Climbing yn Llanberis.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ein hymwelwyr yn ôl i’r amgueddfeydd. Er bod ein hadeiladau wedi bod ar gau, rydym wedi bod ar agor ar-lein dros y pedwar mis diwethaf, yn darparu adnoddau addysg i ysgolion, celf i ysbytai maes, a chysur ac ysbrydoliaeth i bawb. Mae amgueddfeydd yn chwarae rôl allweddol yn iechyd a lles pobl a chymunedau a gobeithiaf y bydd pobl yn dod nôl i ymweld â ni a’n cefnogi ni.

“Diogelwch pawb yw ein prif flaenoriaeth, a byddwn yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac yn parhau i fonitro’r sefyllfa dros yr wythnosau nesaf.

“Rydym yn annog ymwelwyr i fynd ar wefan amgueddfa.cymru i ganfod mwy am y mesurau newydd sy’n eu lle a hefyd i fwynhau’r adnoddau ar-lein ac ar ein platfformau digidol.

“Yn ystod y cyfnod clo rydym wedi cael ymateb arbennig i’n project Casglu Covid sy’n gofyn i bobl Cymru fod yn rhan o’r stori drwy rannu eu profiadau a’u hargraffiadau o fyw yng Nghymru yn ystod pandemig. Bydd hyn yn ffurfio cofnod pwysig i genedlaethau’r dyfodol.”

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o’r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy’n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth.

Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. 

Yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer o ddigwyddiadau poblogaidd Amgueddfa Cymru ar gael i’w mwynhau adref ar-lein. Mwy o wybodaeth am Ŵyl Fwyd Digidol Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Dros Nos: Deffro gyda’r Deinos! GARTREF ar y wefan www.amgueddfa.cymru.

 

DIWEDD