Datganiadau i'r Wasg

Dweud eich Dweud - Helpu i lywio dyfodol Amgueddfa Cymru

“Dylai pawb yng Nghymru allu defnyddio’u hamgueddfeydd cenedlaethol i ddysgu, bod yn greadigol a mwynhau. Ond rydyn ni’n gwybod bod gwaith i’w wneud i gyrraedd y nod,” meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, wrth i’r sefydliad sy’n gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ei chyfeiriad i’r dyfodol.

Mae Amgueddfa Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i holi barn pobl Cymru am gyfeiriad y sefydliad dors y 10 mlynedd nesaf, er mwyn gwneud Cymru yn lle gwell i dyfu, i fyw ac i weithio.

Gobaith yr Amgueddfa yw clywed barn cymaint o bobl â phosib, a lleisiau amrywiol niferus o gymunedau ym mhob cwr o Gymru. Mae’r Amgueddfa wedi nodi saith amcan arfaethedig fel man cychwyn i’r drafodaeth, sy’n mynd i’r afael â phynciau fel mynediad i’r casgliadau a chynrychioli pob cymuned, bioamrywiaeth a’r amgylchedd, iechyd a lles a chynnwys digidol.

"Cawsom ein herio gan bandemig COVID-19 i ailfeddwl ein rôl a’n diben yng Nghymru, ac i ddatblygu dulliau newydd o weithio," meddai David Anderson.

"Rydyn ni bellach yn troi o syniad yr ugeinfed ganrif o’r amgueddfa sy’n gwarchod gwrthrychau o fewn pedair wal, at y syniad bod diwylliant yn rhywbeth byw, perthnasol ac atyniadol mewn cymunedau ledled Cymru.

“Rydym am glywed gan bawb – gan gynnwys pobl sydd ddim yn ymweld neu’n ymwneud ag amgueddfeydd o gwbl. Sut allwn ni wella? Sut hoffech chi weld yr Amgueddfa yn eich cymuned a sut ddylem adlewyrchu’r gymuned honno?”

Bydd yr ymgynghoriad yn agored tan 30 Medi. Gall pobl gyfrannu drwy sawl dull gwahanol;  ar wefan amueddfa.cymru/dweudeichdweud , dros e-bost, drwy gwblhau arolwg neu yn greadigol mewn gweithgareddau i’r teulu. Mae’r arolwg hefyd ar gael fel dogfen hawdd ei darllen ac fel recordiad sain. Bydd cyfle drwy gydol yr ymgynghoriad hefyd i ymateb drwy gyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram Amgueddfa Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o’r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy’n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth.

Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer o ddigwyddiadau poblogaidd Amgueddfa Cymru ar gael i’w mwynhau adref ar-lein. Mwy o wybodaeth am Ŵyl Fwyd Digidol Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Dros Nos: Deffro gyda’r Deinos! GARTREF ar y wefan www.amgueddfa.cymru.

 

DIWEDD