Datganiadau i'r Wasg

Beth i'w wneud gyda Picton?

Amgueddfa Cymru a’r Panel Cynghori Is-Sahara yn cydweithio i ail-adrodd hanes Thomas Picton 

 

Mae’r Is-gadfridog Syr Thomas Picton wedi bod yn destun cryn ddadlau yng Nghymru’n ddiweddar. Bu ymgyrch mudiad Black Lives Matter yn sbardun i ailedrych, ail-ddychmygu a mynd i’r afael â thrafodaeth anghyfforddus y mae nifer wedi ceisio’i hanwybyddu. Elfen o hyn yw cyfraniad mileinig Picton at gaethwasiaeth, yn enwedig ei drais, ei greulondeb a’i ddefnydd o arteithio yn erbyn pobl ddu, boed yn gaethion neu’n ddynion rhydd, tra’n Llywodraethwr Trinidad (1797–1803). 

Melin drafod annibynnol yw’r Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP) yn cynrychioli cymunedau Affrica ar wasgar yng Nghymru, ac maent yn cydweithio ag Amgueddfa Cymru i ailddehongli’r portread maint llawn o Syr Thomas Picton (1758–1815) gan Syr Martin Archer Shee (1769–1850) yn y casgliad celf cenedlaethol. Mae’r project cydweithredol yn cynnwys gweithdai ieuenctid, cyd-guradu, a thrafodaeth gyhoeddus gyda chymunedau ehangach. 

Mae eitemau yng Nghasgliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys y portread o Picton, sy’n gysylltiedig â threfedigaethu a hiliaeth, ac nid yw eu hanes bob tro’n amlwg. Mae’n amser i hyn newid. Dechrau’r gwaith yn unig yw portread Picton. Mae hanesion di-ri i’w hailystyried a’r nod yw i gydweithio’n ehangach ar waith o’r fath. 

Bydd arweinwyr ieuenctid yr SSAP yn ailddweud stori Picton gyda’r nod o roi darlun cliriach o’r hanes yn orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd gweithio yn y fath fodd yn rhoi llais i bobl sydd wedi dioddef a heb gael eu clywed dros y blynyddoedd. 

Mae hanes du Cymreig yn rhan o hanes Cymru. 

Diwedd