Datganiadau i'r Wasg

Cynfas, cylchgrawn celf rhyngweithiol arlein: Galwad am gyfranwyr i'n hail rifyn

Bydd ein hail rifyn yn canolbwyntio ar Ddiwylliant Gweledol a Iechyd.

  • Oes gan ddiwylliant gweledol ran i’w chwarae ym maes iechyd a lles?
  • Sut mae diwylliant gweledol yn adlewyrchu profiad yr unigolyn?
  • Sut all diwylliant gweledol gyfrannu at weledigaeth iechyd a lles ehangach, allai gynnwys cynrychiolaeth a grymuso?
  • Sut allwn ni ddefnyddio diwylliant gweledol i herio neu ddatblygu meddwl?

Galwad am gyfranwyr

 

Bydd Amgueddfa Cymru yn lansio cylchgrawn celf rhyngweithiol, ar-lein o’r ewn Cynfas yn Hydref 2020. Y nod yw rhoi llwyfan i leisiau amrywiol siarad am y casgliad celf cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru, ac annog trafodaeth gyfoethog am ddiwylliant gweledol yng Nghymru. Bydd yn llwyfan i drafodaeth a sgwrs fydd yn llywio datblygiad profiad ar-lein Amgueddfa Cymru, yn ogystal â’r rhaglen arddangosfeydd.


Bydd rhifynnau misol y cylchgrawn yn cynnwys erthyglau neu brojectau celf ar-lein gan bobl o bob cwr o Gymru mewn amryw gyfryngau digidol. Ymhlith y cyfranwyr bydd artistiaid, pobl ifanc, addysgwyr, academyddion, awduron a sefydliadau partner.

 

Cyfrannu

Rydym yn gwahodd pobl o bob cwr o Gymru i gyfrannu erthyglau (hyd at 2000 o eiriau), projectau celf ar-lein, neu ymyrriadau celfyddydol ar gyfer ein rhifynnau thematig misol. Croesewir cyfraniadau mewn unrhyw gyfrwng i’w cyhoeddi ar y platfform ar-lein, gan gynnwys fideo, sain a chyfryngau wedi’u mewnblannu.

 

Bydd ein hail rifyn yn canolbwyntio ar Ddiwylliant Gweledol a Iechyd.

  • Oes gan ddiwylliant gweledol ran i’w chwarae ym maes iechyd a lles?
  • Sut mae diwylliant gweledol yn adlewyrchu profiad yr unigolyn?
  • Sut all diwylliant gweledol gyfrannu at weledigaeth iechyd a lles ehangach, allai gynnwys cynrychiolaeth a grymuso?
  • Sut allwn ni ddefnyddio diwylliant gweledol i herio neu ddatblygu meddwl?

 

Rydym yn chwilio am gyfraniadau yn cynnwys elfennau o’r canlynol:

 

1) Deunydd dewr a deniadol yn adlewyrchu hanes ac arferion cyfoethog y diwylliant gweledol yng Nghymru

2) Ymateb i waith yng nghasgliad Amgueddfa Cymru

3) Rôl celf ac artistiaid yn sbarduno newid

4) Profiadau personol

5) Awgrymiadau ar sut y gall addysg adlewyrchu ac ymdrin â’r drafodaeth hon

6) Sut y gellir ailddychmygu’r dyfodol.

 

Mae croeso i chi gyfeirio at weithiau ar Casgliadau Arlein Amgueddfa Cymru, neu gelf weledol arall y mae gennych hawl i’w atgynhyrchu.

 

Does dim rhaid bod yn feirniad celf. Rydym am glywed gwahanol leisiau sy’n edrych ar ddiwylliant o safbwynt gwahanol – safbwynt pobl anabl, cyfiawnder cymdeithasol, iechyd ac ati. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg.

 

Mae dyddiad cau ceisiadau bellach wedi ei ymestyn i 25 Medi 2020.

 

Sylwer – Rhaid cyflwyno gwaith gwreiddiol sydd heb ei gyhoeddi o’r blaen.

 

Y broses ymgeisio

  • Cyflwyno crynodeb 200 gair o’r erthygl neu’r project i lara.davies@amgueddfacymru.ac.uk
  • Enw, cyfeiriad, manylion cyswllt a pharagraff byr yn cyflwyno eich hun
  • Bydd panel cymysg yn adolygu’r crynodebau o fewn 10 diwrnod ac yn penderfynu ar rai i’w datblygu
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tâl (£250) am eu cyfraniad

 

Os ydych chi’n ystyried cyfrannu ac am wybod rhagor, cysylltwch â angela.maddock@mac.com.