Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn croesawu dau aelod newydd i’r Bwrdd

Abigail Lawrence a Richard Thomas i gryfhau'r oruchwyliaeth o ymgysylltu â'r cyhoedd a dysgu STEM yn amgueddfeydd cenedlaethol Cymru

Heddiw (23 Medi 2020), bydd Abigail Lawrence a Richard Thomas yn ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru am dymor cychwynnol o bedair blynedd. Daw'r penodiadau newydd ar adeg bwysig i'r sefydliad, gan ei fod yn ymgynghori â phobl Cymru ar ei flaenoriaethau yn y dyfodol.

Abigail Lawrence, sydd wedi gweithio yn y sector celfyddydau creadigol yng Nghymru ers 15 mlynedd, yw Pennaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd BBC Cymru. Hi sy'n gyfrifol am sicrhau bod cartref newydd BBC Cymru yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd yn cynnig profiad diddorol i bob ymwelydd, gan gynnwys grwpiau ysgol. Mae gan Abigail brofiad o groesawu a thyfu cynulleidfaoedd amrywiol.   

Cyn BBC Cymru, Abigail oedd Cyfarwyddwr Gweithredu Canolfan Gelfyddydau Chapter. Mae wastad wedi teimlo'n angerddol am bob agwedd o fywyd diwylliannol.

Treuliodd Richard Thomas flynyddoedd cynnar ei fywyd gwaith fel peiriannydd a rheolwr yn y diwydiannau dur a chopr. Ers hynny mae wedi gweithio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Lloegr mewn swyddi sy'n amrywio o ddarlithydd i Is-ganghellor Cynorthwyol. Yn ogystal ag addysgu bu'n gweithio ar ddatblygu'r cwricwlwm Peirianneg ac ystod eang o raglenni STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Mae Richard wedi arwain prosiectau ymchwil a chyfnewid gwybodaeth gymhwysol gydag ystod eang o bartneriaid diwydiannol gan gynnwys TWI, Ford, Tata a Clasonic Kansei. Mae ganddo ddiddordeb mewn addysg ryngwladol ac mae wedi bod yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Technoleg Wuhan.

Croesawodd Roger Lewis, Llywydd Amgueddfa Cymru'r ddau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr:

"Mae Abigail Lawrence yn dod â'i brwdfrydedd dros gelfyddyd gyfoes Cymru i'r bwrdd, archwilio'r byd naturiol ac ymweld â safleoedd treftadaeth gyda'i theulu ifanc. Mae Richard yn angerddol dros bŵer addysg i drawsnewid bywydau unigolion a dyfodol cymunedau cyfan.

"Bydd y ddau yn dod â'u profiadau a'u brwdfrydedd i gyfoethogi a gobeithio herio gwaith Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.

"Ar hyn o bryd rydym yn gofyn i bobl Cymru am eu barn ar yr hyn y dylai Amgueddfa Cymru ei wneud dros y 10 mlynedd nesaf, er mwyn helpu i wneud Cymru'n lle gwell i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddi. Yr wyf hefyd yn edrych ymlaen at gyfraniadau gan Abigail a Richard at ein strategaeth ar gyfer y dyfodol. Croeso mawr!"

Bydd yr ymgynghoriad yn agored tan 30 Medi. Gall pobl gyfrannu drwy sawl dull gwahanol; ar wefan amgueddfa.cymru/eichllais, dros e-bost, drwy gwblhau arolwg neu yn greadigol mewn gweithgareddau i’r teulu. Mae’r arolwg hefyd ar gael fel dogfen hawdd ei darllen ac fel recordiad sain. Bydd cyfle drwy gydol yr ymgynghoriad hefyd i ymateb drwy gyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram Amgueddfa Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o’r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy’n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth.

Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.