Datganiadau i'r Wasg

Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis yn ymddeol ar ôl 40 mlynedd o rannu hanes y diwydiant llechi gyda’r byd

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb. I staff Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, mae hefyd yn ddiwedd cyfnod wrth i Dr Dafydd Roberts – sydd wedi bod yn yr amgueddfa ers bron i 40 mlynedd – ymddeol ddiwedd Rhagfyr.

Dr Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru 

Wedi astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth, dechreuodd Dafydd ei yrfa gydag Amgueddfa Cymru ym mis Hydref 1980 yn Adran Amaeth a Bywyd Gwerin, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.


Penodwyd Dafydd yn Gymhorthydd Ymchwil gyda gofal dros Amgueddfa Lechi Cymru (Amgueddfa Chwareli Llechi Gogledd Cymru bryd hynny) ym 1981. Yn y cyfnod hwn cwblhaodd ei Ddoethuriaeth ar bwnc ‘Cymunedau Chwarelyddol Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd, 1911–1939.’
Daeth yn Geidwad Amgueddfa’r Gogledd (yn cynnwys Amgueddfa Lechi Cymru a chyn-safle Oriel Eryri yn Llanberis) ym 1988 – swydd oedd yn berffaith iddo fel yr esboniodd:


“Mae fy nghysylltiad â’r diwydiant llechi’n mynd yn ôl sawl cenhedlaeth. Roedd fy nhad, fy nhaid a’m hen-daid yn chwarelwyr felly mae’r diwydiant – ac yn arbennig ei bobl – wedi bod o ddiddordeb mawr i mi erioed. Pobl ardaloedd y chwareli yw’r bobl orau yn y byd yn fy marn i, felly roedd y cyfle i weithio yn Amgueddfa Lechi Cymru yn berffaith i mi!”
Yn ystod ei gyfnod yn yr amgueddfa mae wedi llywio sawl datblygiad cyffrous – gan gynnwys ail-ddatblygiad yr amgueddfa ym 1998 diolch i gais llwyddiannus am grant o £1.6 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, oedd yn cynnwys symud teras o dai chwarelwyr i’r amgueddfa, ac atgyweirio Inclein Vivian (V2).


Yn dilyn lansio mynediad am ddim yn 2001, tyfodd nifer yr ymwelwyr blynyddol o 30,000 i tua 150,000, ac mae sawl pen-blwydd a dathliad cofiadwy wedi bod ar hyd y blynyddoedd. Ond un o’r projectau mwyaf cyffrous efallai yw’r cais diweddar am Statws Treftadaeth Byd i dirwedd llechi’r gogledd-orllewin. Cyngor Gwynedd sy’n arwain y cais hwn, ond mae Dafydd wedi bod yn rhan allweddol ohono o’r dechrau.

Dywedodd Dafydd:

“Rwyf wedi mwynhau fy amser yn Amgueddfa Lechi Cymru yn aruthrol. Mae pob un diwrnod yn wahanol, ac mae’r misoedd diwethaf wedi dangos hynny yn fwy nag erioed. Ond yr amrywiaeth honno sydd wedi fy nghyfareddu dros y deugain mlynedd diwethaf. Y peth gorau am y swydd yw’r cyfle i esbonio i’n holl ymwelwyr hanes a phwysigrwydd y diwydiant rhyfeddol hwn – yn enwedig y bobl fu’n rhan o’r diwydiant, ac sy’n dal i fod. 
“Edrychaf ymlaen at 2021, a’r holl gyfleoedd newydd fydd gen i, ond hefyd – gobeithio – at glywed cyhoeddiad bod diwydiant llechi gogledd Cymru wedi’i ddynodi yn Safle Treftadaeth Byd. Bydd Amgueddfa Lechi Cymru wrth galon y dehongliad wrth i ni gyflwyno hanes y chwareli i gynulleidfa fyd-eang.”


Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:
“Rwyf yn hynod o ddiolchgar i Dafydd am ei ymroddiad i Amgueddfa Lechi Cymru. Mae ei wybodaeth a’i angerdd am y diwydiant wedi bod yn arbennig o werthfawr dros y blynyddoedd a bydd yn gadael bwlch fydd yn anodd iawn ei lenwi. Mae wedi bod yn rhan o daith yr Amgueddfa ers y dechrau un, ac mae’r amgueddfa bellach yn un o brif sefydliadau diwylliannol ac atyniadau twristaidd y gogledd-orllewin. I’w arweinyddiaeth ef y mae llawer o’r diolch am hynny. Dymunwn yn dda iawn iddo yn ei ymddeoliad.”

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk

 

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau. www.amgueddfa.cymru. 

Enillodd un o’r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy’n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019. Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. #cefnogwcheinhamgueddfeydd

Yn ddiweddar mae Amgueddfa Cymru wedi lansio ymgyrch gyllido torfol i ofyn am gefnogiaeth wrth wynebu heriau’r pandemig. Er bod yr amgueddfeydd wedi bod ar gau yn ystod y cyfnod clo, bu’r gwaith yn mynd yn ei flaen wrth i Amgueddfa Cymru ddarparu adnoddau addysg gwerthfawr i ysgolion, celf i ysbytai maes, a chysur ac ysbrydoliaeth i bawb drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau ar-lein. https://www.crowdfunder.co.uk/cefnogwch-support-amgueddfa-cymru