Datganiadau i'r Wasg

Chwythu stêm i ddathlu canmlwyddiant

Bydd Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn cynnal sioe arbennig ar benwythnos y 18–19 Mehefin eleni i ddathlu penblwydd ei injan stém UNA yn gan mlwydd oed. Bydd y digwyddiad, sy'n sicr o ddenu'r rheini sy'n dotio ar drenau bach, yn gyfle i bobl o bob oed fwynhau hud trenau bach stêm. Caiff ymwelwyr gyfle i deithio ar drenau bach rheilffordd gul sydd wedi eu cynnull ar y safle yn neilltuol ar gyfer y dathliad.

Daw nifer o gyn-yrwyr a thanwyr injans chwarel ardaloedd diwydiant llechi gogledd Cymru ynghyd mewn seremoni a drefnwyd yn benodol ar gyfer y canmlwyddiant. Yn eu plith fydd Mr Harry Roberts, gyrrwr olaf gweithredol UNA yn Chwarel Pen-yr-Orsedd yn Nyffryn Nantlle, sydd wedi cytuno i dorri teisen penblwydd fawr o flaen cynulleidfa a fydd hefyd yn cynnwys eraill â chysylltiadau teuluol â'r diwydiant llechi. Caiff Mr Roberts gyfle unwaith eto i roi tro a tipyn bach o chwythu stêm ar UNA am 11 o'r gloch ar fore Sadwrn 18 Mehefin yn iard yr Amgueddfa yn union y tu allan i'r cwt injans.

Meddai Dr Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa Lechi, bod rheilffyrdd graddfa gul ac injans stém wedi bod yn hanfodol ar gyfer datblygiad y diwydiant llechi. "Defnyddiwyd UNA yn bennaf ar gyfer llusgo trenau o wagenni rwbel oddi mewn Chwarel Pen-yr-Orsedd. Daeth i feddiant Amgueddfa Lechi Cymru ym 1977 ac, ar ?l gwaith adfer, mae UNA ers blynyddoedd bellach mewn cyflwr rhagorol."

Adeiladwyd UNA, rhif gwaith 873, ym 1905 gan gwmni Hunslet, Leeds. Bu'n gweithio ym Mhen-yr-Orsedd tan tua 1960. Mae'n pwyso chwe thunnell a chanddi bedair olwyn trefniant 0-4-0 a thanc d_r uwchben y bwyler. Fe'i hadeiladwyd ar gyfer rheilffordd llêd 1' 11" (60 cm) a dengys cofnodion Hunslet mai lliw coch dyfn y Midland Railway oedd hi yn wreiddiol. Seiliwyd yr enw UNA ar un o gymeriadau yn The Faerie Queene gan Edmund Spenser. Ar ôl dathlu'r canmlwyddiant, mae cynllun i ail-baentio'r injan yn ei lliw gwreiddiol i adlewyrchu'r cywirdeb hanesyddol sy'n rhan o ethos curadurol yr Amgueddfa.

Bydd cyfleusterau ar y penwythnos dathlu yn cynnwys ystafell chwarae i blant bach yng nghwmni oedolion, caffi, siop a digwyddiadau ac atyniadau arferol yr Amgueddfa.

Agorir y drysau i'r Sioe Dathlu Canmlwyddiant UNA bob dydd am 10yb ac mae mynediad am ddim.

Rhagor...

Mae safleoedd eraill AOCC yn cynnwys yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Blaenafon — enillydd Gwobr Gulbenkian eleni — Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, a'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nre-fach Felindre. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor yn Abertawe yn nes ymlaen eleni, gan adrodd stori pobl, diwydiant a blaengaredd yng Nghymru.

Mae mynediad i holl safleoedd AOCC am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â John Kendall, Swyddog Marchnata, Amgueddfa Lechi Cymru, ar 01286 873707

Nodiadau ar gyfer golygyddion

  • Saif Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, perfeddwlad o brydferthwch digymar a chraigwyneb ysblennydd anhygoel. Mae'r safle, sef, hen weithdai cynnal a gofal Cwmni Chwarel Dinorwig gynt, yn allwedd i gyfnod sylweddol o orffennol peirianyddol Cymru ynghyd â thrysorfa o hanes cymdeithasol a diwydiannol y wlad. O fewn muriau trawiadol adeiladau'r Amgueddfa ceir cyfle i weld cyflwyniad ffilm 3D, arddangosiadau crefft chwareli, olwyn ddŵr fwyaf ar dir mawr Prydain, rhes o dai a ddengys sut roedd chwarelwyr a'u teuluoedd yn byw drwy'r oesoedd a rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau addysgol.