Datganiadau i'r Wasg

Dathlu'r Dolig yn Dre-Fach Felindre

Am llond sach o hwyl a sbri, dewch draw i Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre i fwynhau ychydig o hwyl yr Ŵyl y Nadolig hwn!

Byddwn yn dathlu'r Nadolig gyda digwyddiad arbennig ar noswyl 21 Rhagfyr, gyda llond lle o garolau, gwin gaeafol, mins peis – ac ymwelydd arbennig iawn ar gyfer y plantos bach – Siôn Corn.

Mae'r amgueddfa, sy'n rhan o deulu Amgueddfa Cymru, yn lle perffaith ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am anrheg bach arbennig ar gyfer y hosan Nadolig.

Un o gyfrinachau mawr Amgueddfa Cymru yw'r siop hyfryd yn yr Amgueddfa Wlân sy'n gwerthu pob math o anrhegion – o siolau a blancedi gan felinau gwlân Cymreig i ddefaid tegan o bob lliw a llun – a maint! Y lle perffaith ar gyfer siopa Nadolig – yn enwedig gan ein bod yn cynnig gostyngiad o 10% ar unrhyw anrhegion sy'n costio dros £10, o nawr hyd ganol Ionawr.

Cewch gyfle hefyd i grwydro o amgylch yr hen beiriannau diwydiannol ac i ddysgu mwy am y pentref bach a elwid yn ‘Huddersfield Cymru' ar anterth y diwydiant gwlân ynghyd â chael blas ar gynnyrch Cymreig lleol yn y caffi.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae'r digwyddiad Nadolig yn cychwyn am 4.30pm, nos Fercher 21 Rhagfyr. Am ragor o fanylion, cysylltwch â'r amgueddfa ar 01559 370 929.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r datganiad hwn, cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru ar 07974 205 849 – Gwenllian.carr@amgueddfacymru.ac.uk