Datganiadau i'r Wasg

Siopa'n ddoeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Am lond sach o syniadau ar gyfer anrhegion, dewch draw i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Un o gyfrinachau mawr Amgueddfa Cymru yw'r siop yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy'n gwerthu pob math o anrhegion – o ddeinosoriaid tegan i ddarluniau enwog a siocledi cartref blasus dros ben. Dewch i ddianc rhag y dyrfa trwy siopa'n ddoeth.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am rhagor o fanylion cysylltwch â
Siân James, Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
(029) 2057 3185 / 07970 016058
sian.james@amgueddfacymru.ac.uk