Datganiadau i'r Wasg

Prif Weinidog Cymru I Ymweld  Big Pit

Datganiad I’r Wasg - 20 Rhagfyr 2005

Bydd Prif Weinidog Cymru, Gwir Anrh. Rhodri Morgan yn ymweld â Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru, ddydd Iau 21 Rhagfyr.

Fel un o deulu Amgueddfa Cymru, mae Big Pit ym Mlaenafon wedi mwynhau blwyddyn arall sydd wedi torri pob record, ac meddai Peter Walker, Ceidwad a Rheolwr y Pwll:
“Rydym yn falch iawn bod y Prif Weinidog yn ymweld â ni dros yr ŵyl. Byddwn ar agor drwy gydol y flwyddyn am y tro cyntaf ers blynyddoedd, a rydym yn gobeithio y bydd Mr Morgan yn mwynhau gweld ymwelwyr yn cymryd rhan yn y cwmpas eang o weithgareddau ar gyfer y teulu oll dros gyfnod y gwyliau.
“Yn y gorffennol, mae Big Pit wedi cau am ryw ddeg wythnos dros y gaeaf er mwyn gwneud gwaith cynnal-a-chadw dan y ddaear ac ar y wyneb, ond dim ond am bedwar diwrnod dros yr ŵyl y bydd yr amgueddfa ar gau eleni. Rydym yn gobeithio y bydd ymweliad Mr Morgan yn gyfle i atgoffa pawb bod Big Pit yn lle ardderchog i ddod â’r teulu cyfan am ymweliad dros y gwyliau.”

Ychwanegodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Mae wedi bod yn flwyddyn ardderchog i Big Pit. Enillodd wobr fel Amgueddfa Orau Prydain yn gynharach eleni, cyn denu mwy o ymwelwyr nac erioed o’r blaen, a nawr, mae ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae’r newidiadau a wnaethpwyd yn Big Pit dros y blynyddoedd diwethaf yn arbennig, ac wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod yr amgueddfa yn un o’r llefydd mae’n rhaid ymweld â nhw yng Nghymru.”

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon – enillydd Gwobr Gulbenkian eleni, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Mae mynediad i'r holl amgueddfeydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

-Diwedd-

Nodiadau i Olygyddion -

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Kathryn Stowers, Swyddog Marchnata Big Pit.
Ffôn: 01495 790311.
Ffôn poced: 07970 017210
kathryn.stowers@amgueddfacymru.ac.uk
Mae Big Pit ar agor trwy gydol Rhagfyr ac Ionawr, ac eithrio 24, 25, 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr.
Oriau agor tan ddiwedd Tachwedd: 9.30am–5pm.
Teithiau cyson danddaear 10am–3.30pm.
O 1 Rhagfyr: 9.30am–4.30pm.
Teithiau cyson danddaear 10am–3pm.
Dim teithiau danddaear yn ystod mis Ionawr.