Datganiadau i'r Wasg

Big Pit: lle perffaith i ddod i siopa

Datganiad i'r Wasg - 27 Rhagfyr 2005

Os ydych yn chwilio am rywbeth beth arbennig i ddifetha'ch un nawr bod y Nadolig wedi pasio, beth am alw mewn i siop Big Pit ym Mlaenafon?

Felly os ydych chi’n chwilio am ddarn arbennig o emwaith neu lamp glöwr, bydd staff Big yn fwy na pharod helpu i ddewis anrheg arbennig iawn. Mae’r siop yn cynnig rhywbeth i bawb – llyfrau a CDs ar gyfer Dad, gemwaith, porslen neu addurniadau bychan ar gyfer Mam, a llond lle o bethau pris arian poced ar gyfer y plant.

Beth am gyfuno diwrnod allan arbennig llawn hwyl – ac am ddim – ar gyfer y teulu cyfan – gyda tipyn o sioa gyda naws hollol Gymreig – cewch y cyfan oll yn Big Pit.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon – enillydd Gwobr Gulbenkian am amgueddfa orau Prydain 2005, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae mynediad i'r holl amgueddfeydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

-Diwedd-

Nodiadau i Olygyddion -

  • I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
    Kathryn Stowers, Swyddog Marchnata Big Pit.
    Ffôn: 01495 790311.
    Ffôn poced: 07970 017210
    kathryn.stowers@amgueddfacymru.ac.uk
  • Mae Big Pit ar agor trwy gydol Ionawr, ac eithrio Dydd Calan.
    Oriau agor tan ddiwedd Tachwedd: 9.30am–5pm.
    Teithiau cyson danddaear 10am–3.30pm.
    O 1 Rhagfyr: 9.30am–4.30pm.
    Teithiau cyson danddaear 10am–3pm.
    Dim teithiau danddaear yn ystod mis Ionawr.