Datganiadau i'r Wasg
Clirio’r pen gydag ymweliad â Big Pit
Dyddiad:
2006-01-02Datganiad i’r Wasg - 2 Ionawr 2006
Os ydych chi'n chwilio am ffordd i glirio’ch pen ar ôl dathliadau’r wŵyl, beth am ddod am dro i Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru?
Am y tro cyntaf, mae’r amgueddfa yma – sy’n rhan o deulu Amgueddfa Cymru – ar agor trwy gydol y flwyddyn, ac mae mis Ionawr yn gyfle gwych i weld peth o’r gwaith cynnal–a–chadw sy’n digwydd er mwyn sicrhau diogelwch y safle. A dyma’ch cyfle chi i ddysgu beth yn union sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni yn amgueddfa orau Prydain.
Meddai Ceidwad a Rheolwr Big Pit, Peter Walker:
“Mae safle Big Pit ar ochr y mynydd ym Mlaenafon yn lle perffaith i ddod am dro os ydych chi am glirio’ch pen cyn dechrau 2006 go iawn. Bydd ein peiriannydd cadwraeth yn arwain teithiau dyddiol o amgylch y safle, gan ddangos beth sy’n rhaid ei wneud i wneud y lle'n ddiogel i bawb am weddill y flwyddyn.
“Ni fydd teithiau danddaear yn rhedeg ym mis Ionawr oherwydd y gwaith cynnal–a–chadw, ond mae digonedd i’w weld a’i wneud ar ben y pwll yn Big Pit, gan gynnwys y baddondai a’n taith rithwir danddaear.
“Mae hefyd yn gyfle arbennig i weld rhai o’r peiriannau llai'n gweithio yn ein gweithdy cadwraeth bob prynhawn. Felly, mae mis Ionawr yn gyfle gwych i ymwelwyr weld beth sy’n digwydd go iawn o ddydd i ddydd yn Big Pit.”
Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon – enillydd Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa Orau Prydain 2005, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Mae mynediad i'r holl amgueddfeydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
-Diwedd-
Nodiadau i Olygyddion -
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
-
Kathryn Stowers, Swyddog Marchnata Big Pit.
Ffôn: 01495 790311.
Ffôn poced: 07970 017210
kathryn.stowers@amgueddfacymru.ac.uk - Mae Big Pit ar agor trwy gydol Ionawr, ac eithrio Dydd Calan.
Oriau agor tan ddiwedd Tachwedd: 9.30am–5pm.
Teithiau cyson danddaear 10am–3.30pm.
O 1 Rhagfyr: 9.30am–4.30pm.
Teithiau cyson danddaear 10am–3pm.
Dim teithiau danddaear yn ystod mis Ionawr.