Datganiadau i'r Wasg

Jazz Ac Ati

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe wedi carlamu i mewn i'r flwyddyn newydd, gyda dros 53,000 o ymwelwyr yn llifo trwy ei drysau ers iddi agor ym mis Hydref – ac mae rhagor o newyddion da ar y gorwel.

Bydd bar-caffi jazz yn agor yn y ganolfan £33.5 miliwn cyn bo hir. Mae hyn yn golygu y bydd tair o'r pedair uned yn llawn, ac mae cwmni wedi dangos diddordeb yn y bedwaredd.

Y cwmni syrffio Rip Curl oedd y cyntaf i ymgartrefu yn yr adeilad, wedyn daeth cwmni sy'n arbenigo mewn hufen iâ Eidalaidd a fydd yn agor y mis yma. Nawr bydd Cafe Cesso, sydd â bar ar Ffordd Brynymor, yn agor yn y gwanwyn.

Mae'r atyniad £33.5 miliwn, sy'n adrodd stori diwydiant a blaengaredd Cymru dros y 250 mlynedd diwethaf, eisoes yn denu miloedd o ymwelwyr i'r Ardal Forwrol.

Mae'n adrodd ei straeon gan ddefnyddio technegau modern a thechnoleg gyfrifiadurol, ac mae'n cyfuno'r gorffennol a'r dyfodol trwy gyfres o arddangosion thematig ac amrywiaeth o bethau mawr a bach.

Fel atyniad ychwanegol, mae'r Amgueddfa, lle mae siop anrhegion a chaffi hefyd, wedi llwyfannu pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig.

Mae Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa, wrth ei fodd ar y dechrau da i'r flwyddyn newydd.

“Fe ddechreuon ni'r Flwyddyn Newydd ar garlam. Mae tair uned o'r pedair wedi cael eu gosod a byddan nhw'n agor cyn bo hir, ac mae diddordeb mawr yn yr uned sydd ar ôl.

“Roedd hi'n Nadolig prysur i ni, ac mae hynny'n golygu ein bod ni'n rhagori ar ein targedau hyd yn hyn.”

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae holl safleoedd Amgueddfa Cymru'n cynnig mynediad am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cyswllt:

Fay Harris, Swyddog y Wasg a Marchnata
(01792) 638970
fay.harris@amgueddfacymru.ac.uk