Datganiadau i'r Wasg

Dewch i Big Pit am brofiad heb ei ail yn ystod hanner tymor

Mae llond lle o bethau i'r teulu cyfan ei weld a'i wneud yn Big Pit yn ystod gwyliau hanner tymor, felly beth am alw draw i'r pwll am brofiad bythgofiadwy?

Yn ogystal â'r daith dan-ddaear fyd enwog, gall ymwelwyr ddysgu mwy am y diwydiant glo yng Nghymru yn ein amgueddfa arbennig, sy'n rhan o deulu Amgueddfa Cymru. Beth am ymweld â'r galeri arbennig sy'n dangos sut mae glo yn cael ei gloddio heddiw, gyda chymorth ein glöwr rhithwir? Cofiwch hefyd alw mewn i'r Baddondy Pen Pwll i ddysgu am y diwydiant a newidiodd gwrs Cymru.

Rydym yn rhedeg gweithgareddau ar gyfer plant drwy gydol yr wythnos. Cewch gyfle i wisgo i fyny fel glöwr, gwneud canhwyllau a bydd lle chwarae arbennig ar gael ar gyfer y plantos lleiaf.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Mae Big Pit ar agor bob dydd o 9.30am-5pm. Mae'r teithiau dan-ddaear yn rhedeg yn rheolaidd o 10am–3.30pm.