Datganiadau i'r Wasg

Digwyddiadau hanner tymor gan Amgueddfa Cymru

Mae gan Amgueddfa Cymru rywbeth ar gyfer pawb yn ei saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru, yn ystod hanner tymor.

Beth am alw mewn i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle bydd cyfle i ddysgu mwy am arddangosfa arbennig Artes Mundi, gyda sesiynau llawn hwyl yn trafod ac yn creu gweithiau celf?

Anifeiliaid fydd thema fawr Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Dewch draw i'r amgueddfa am sesiynau celf ac adrodd straeon.

Archwilio gwely'r môr a gwaith gwyddonol sydd wedi cael ei wneud ym Môr Hafren fydd thema fawr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn ystod y gwyliau. Dewch i gymryd rhan yn y sioe bywyd gwyllt morol sy'n digwydd bob dydd yn ystod y gwyliau.

Cyfle i wisgo i fyny fel glöwr, gwneud canhwyllau a chael llond lle o hwyl fydd yn Big Pit, Blaenafon, yr wythnos nesaf – gyda lle chwarae medal arbennig ar gyfer y plantos lleiaf.

Bydd cyfle i wisgo i fyny yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, hefyd. Felly, os ydych chi am fod yn Rufeiniwr bach, ymarfer eich sgiliau gyda gwaywffyn a chwrdd â milwr – dyma'r amgueddfa i chi y gwyliau hwn.

Llwybr llawn hwyl o amgylch yr amgueddfa sydd ar gael yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre. Mae'n gyfle i gribo, nyddu, gwau a gwnïo wrth wneud eich ffordd o amgylch yr amgueddfa.

Ac os mai trenau bach sy'n mynd â'ch bryd, yna Amgueddfa Lechi Cymru a'r sioe trenau bach flynyddol yw'r lle i chi yr hanner tymor hwn, o 23-26 Chwefror.

Cofiwch hefyd am siopau arbennig Amgueddfa Cymru sydd ym mhob un o'r amgueddfeydd. Os ydych chi'n chwilio am anrheg allan o'r cyffredin ar gyfer rhywun arbennig, dewch draw i daro golwg ar yr hyn sydd ar werth yn ein siopau ni.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o wybodaeth yngl?n â'r digwyddiadau hyn, ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk . Am ragor o wybodaeth am y datganiad hwn, cysylltwch â Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol, Amgueddfa Cymru – 029 2057 3185.