Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – y lle perffaith i dreulio Diwrnod Gweithio Eich Oriau Go Iawn!

Ddydd Gwener (24 Chwefror), mae hi’n Ddiwrnod Gweithio eich Oriau Go Iawn, felly beth am gymryd awr ginio go iawn a’i threulio yn crwydro un o deulu hynod Amgueddfa Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd?

Gall treulio awr mewn amgueddfa yn ystod amser cinio wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch diwrnod. Dewch draw i weld eich hoff lun – neu i ddarganfod hoff lun newydd. Gwnewch amser i ddod i weld ein dinosoriaid, neu galwch mewn i gael paned a thamaid i fwyta yn ein bwyty neu siop goffi mewn awyrgylch heb ei hail. Gyda mynediad am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, does dim esgus dros beidio â gwneud amser i ymweld â’r casgliadau cenedlaethol.

Gallwch grwydro ein arddangosfa arbennig ar feioamrywiaeth yn y brif neuadd, neu os mai celf sy’n mynd â’ch bryd, chewch chi ddim gwell nag arddangosfa Gwobr Artes Mundi 2 – sy’n profi’n boblogaidd iawn gyda phobl o bob oed. Treuliwch awr yn edrych ar waith un o’r wyth o artistiaid sydd ar y rhestr fer – a chyda’r arddangosfa i’w gweld tan 7 Mai, mae digon o amser i alw draw eto i weld gwaith y gweddill.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw cartref parhaol casgliad arbennig o gelf argraffiadol ac ôl argraffiadol, gan gynnwys gweithiau eiconaidd fel La Parisienne Renoir a ddangosodd yn yr arddangosfa Argraffiadol gyntaf erioed ym 1874, tri darn o gyfres Lilïau D?r Monet a thri o'i olygfeydd diweddar o Fenis. Mae yna weithiau rhagorol gan Manet, Pissarro, Sisley, Berthe Morisot, Degas, Cezanne a Van Gogh hefyd, ac mae’r cyfan oll yn werth i’w gweld.

Cofiwch hefyd am ein siop yn y brif neuadd – yr union le i chwilio am anrheg gwahanol i rywun arbennig. O deganau ar gyfer plant i lyfrau hardd am ein casgliadau celf, mae’r cyfan oll i’w cael yn siop Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol, Amgueddfa Cymru – 029 2057 3185.