Datganiadau i'r Wasg
Arddangosfa Goffa Will Roberts RCA - Arddangosfa deithiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dyddiad:
2001-09-08"Ni allaf feddwl am unman lle'r hoffwn baentio - na byw - yn fwy nag yng Nghymru"
Bydd arddangosfa ôl-dremiol o waith Will Roberts, un o arlunwyr mwyaf poblogaidd ac uchel eu parch Cymru yn yr 20fed ganrif, yn agor yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol ar 8 Medi, 2001.
Bydd yn gyfle i weld paentiadau, darluniau a llyfrau brasluniau a ddewiswyd gan yr arlunydd ei hunan. Ceir yno ddetholiad bychan o luniau o gasgliad ei deulu a nifer o dirluniau sy'n amlygu cariad yr arlunydd at ei deulu, Cymru a'i phobl, yn enwedig ei dref fabwysiedig, Castell-nedd.
Ganed Will Roberts yn Rhiwabon ond symudodd y teulu i Gastell-nedd pan oedd yn blentyn. Bu'n arlunydd am dros 70 o flynyddoedd ac roedd yn dal i baentio hyd nes iddo farw fis Mawrth diwethaf, yn 92 oed. Roedd wrth ei fodd yn tynnu lluniau pobl, yn cynnwys ei wraig Phyllis (prif ffynhonnell ei ysbrydoliaeth), a bywyd bob dydd yng Nghastell-nedd.
Yn y Chwedegau, ysbrydolwyd Roberts gan weddillion y maes diwydiannol yng Nghastell-nedd i dynnu cyfres o luniau mawr siarcol o ddynion yn gweithio yn y melinau dur a thunplat, fel y Knoll Gardens a gweithwyr yn y Neath Sheet and Galvanising Co. Ltd. Nid cofnodi hanes oedd ei nod ond cyfleu gosgeiddrwydd y gweithwyr a pharch at grefft oedd ar ddarfod amdani.
Roedd Will Roberts yn eglwyswr ac yn ddyn o argyhoeddiadau crefyddol tra bu. Mae brasluniau ar gyfer Safleoedd y Groes (mae'r gyfres i'w gweld yn barhaol yn Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd) yn cyfleu ffydd yr arlunydd a'i ymgais i bortreadu gwirionedd mewn celfyddyd, a'i allu i greu delweddau pwerus ac ysbrydol.
Yn wahanol i'r arlunydd Josef Herman, a fu'n gyfaill ac yn bartner creadigol iddo am flynyddoedd, canolbwyntiai Roberts ar y personol yn hytrach na'r gwleidyddol ac fe gynhyrchai waith a roddai "urddas i'r olygfa gyffredin a'i gwneud yn gofiadwy."