Datganiadau i'r Wasg

Cyhoeddi enillydd Gwobr £40, 000 Artes Mundi

Artist gweledol a gwneuthurwraig ffilmiau fedrus yw Eija-Liisa Ahtila. Mae'n cynhyrchu ffotograffau a fideos neu osodweithiau ffilm sy'n llenwi ac yn gwyrdroi orielau. Mae'n cyfuno gwrthrychedd rhywun sy'n creu rhaglenni dogfen a delweddau dychmygol seicolegydd. Mae'n disgrifio'I ffilmiau fel 'dramau dynol'. Mae manylion bywyd pob dydd, straeon am weithgareddau swrreal a thystiolaeth am gyflwr meddwl pobl yn cyfuno'n weledol i greu gweithiau sy'n cael eu cyfoethogi gan nodweddion sinemataidd a theledol cyfryngau'r artist.

Mae Eija-Liisa Ahtila'n gweithio yn Helsinki, y Ffindir. Dros y blynyddoedd mae hi wedi ymddiddori mewn pobl sy'n dioddef o wahanol fathau o salwch meddwl ac wedi ymchwilio i'r pwnc. Actorion sy'n perfformio ei naratif dychmygol, ond mae'n seilio'r cyfan ar gyfweliadau a sgyrsiau go iawn, ynghyd a'i phrofiadau a'i chof eu hun. Mae ei gwaith yn aml yn adlewyrchu canlyniadau digwyddiad pwysig, er nad yw'r gynulleidfa ymwybodol o'r holl gefndir. Mae llawer o'i gwaith yn myfyrio ar yr emosiynau sylfaenol sy'n sail i berthnasau pobl; cariad, cenfigen, dicter, gwendid neu rywioldeb. Mae sain, llais naratif, cerddoriaeth a haenau o amser oll yn cyfoethogi'r ymdeimlad o ddrama seicolegol ac yn tynnu'r gynulleidfa i mewn i fyd cymhleth lle daw realiti a ffuglen yn un.

Meddai Gerardo Mosquera, Cadeirydd Panel y Beirniaid:

“Edrychodd y panel ar bob un o'r artistiaid yn ofalus a phenderfynwyd rhoi Gwobr Artes Mundi 2 i Eija-Liisa Ahtila. Roedden ni'n edmygu soffistigeiddrwydd ei hiaith artistig, sut y llwyddodd i ddatblygu ein profiad o gelfyddyd fideo gyda ffilm artist, a sut mae'r pynciau a ddewisodd yn ymateb i thema Artes Mundi o'r cyflwr dynol mewn ffordd ddwfn ond personol.

Dewisodd y beirniaid enillydd Wobr Artes Mundi 2006 ar ôl edrych ar waith yr wyth artist sydd ar y rhestr fer a'i ystyried yng nghyd-destun eu gwaith diweddar. Y beirniaid oedd Paolo Colombo – Curadur MAXXI Museo Nazionale delle Arti del XXI Secolo, Rhufain, yr Eidal; Thelma Golden – Cyfarwyddwr a Phrif Guradur The Studio Museum yn Harlem, Efrog Newydd; Cai Guo-Qiang – Artist sy'n byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd, UDA; Gerardo Mosquera (Cadeirydd Panel y Beirniaid) – curadur annibynnol a beirniad celf sy'n byw yn Havana, Ciwba; a Jenni Spencer-Davies – Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe.

Dewisodd dau guradur rhyngwladol, y rhestr fer o wyth o dros 200 o enwebiadau o dros 60 o wledydd. Deepak Ananth, Hanesydd Celf Indiaidd a Churadur celf fodern a chyfoes sy'n gweithio ym Mharis ac Ivo Mesquita, curadur, beirniad ac awdur o Frasil – sy'n un o ffigurau blaenllaw byd celf weledol America Ladin – oedd y dewiswyr.

Wrth ddewis un artist, mae'r beirniaid yn ystyried y gwaith sydd yn yr arddangosfa a thystiolaeth o enghreifftiau eraill o'u gwaith yn ystod y pump i wyth mlynedd diwethaf. Y nod yw cyflwyno'r Wobr i'r artist sy'n creu gwaith nodedig o safon yn gyson, sy'n gwneud i bobl feddwl ac sy'n cyd-fynd â meini prawf y Wobr.

Wrth estyn ei longyfarchiadau adeg y cyhoeddiad, dywedodd Alun Pugh AC, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon:

“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth ei fodd i chwarae rhan yng Ngwobr Artes Mundi eto eleni. Hoffwn longyfarch Eija-Liisa Ahtila, ar y gamp aruthrol yma. Mae'r wobr flaenllaw hon yn rhoi cyfle i artistiaid o bedwar ban y byd i gymryd rhan mewn trafodaeth a gweithgareddau diwylliannol, gan gyflwyno celf weledol gyfoes newydd a chyffrous i gynulleidfaoedd newydd, a gosod Cymru ar y map diwylliannol rhyngwladol.”

Dyma'r artistiaid a gyrhaeddodd y rhestr fer:

Eija-Liisa Ahtila (Helsinki, y Ffindir);Thomas Demand (Berlin); Mauricio Dias a Walter Riedweg (Brasil, y Swistir); Leandro Erlich (Buenos Aires, yr Ariannin); Subodh Gupta (Khagaul, India); Sue Williams (Cymru); Wu Chi-Tsung (Taipei, Taiwan).

Yn 2004 cyflwynwyd gwobr gyntaf Artes Mundi i'r artist Tsieineaidd, Xu Bing.

Noddir Artes Mundi trwy haelioni:

Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Caerdydd, Amgueddfa Cymru, Celf a Busnes Cymru, Artsworld, BBC Cymru, BT, Menter Caerdydd, Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd – UWIC, Prifysgol Caerdydd, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru, Sefydliad Esmée Fairbairn, FRAME – Cronfa Gyfnewid Celf y Ffindir, Francis Balsom Associates, Geldard LLP, King Sturge, KPMG LLP, M & A Solicitors, Park House Club, S & G Print Group, Sydney & London Properties, Cyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Derek Williams, Ymddiriedolaeth Ernest Cook, Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm, Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru Abertawe, Celfyddydau Cymru Rhyngwladol, Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Western Mail & Echo.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Julie Richards, Rheolwr PR a Chyfathrebu
Artes Mundi Gwobr Celf Weledol Ryngwladol Cymru
Ffôn poced: 07876 476695 E-bost: julierichards@artesmundi.org

Nodiadau i Olygyddion

EIJA-LIISA AHTILA – cafodd ei geni yn Helsinki, y Ffindir ac mae'n dal i weithio yn y ddinas. Artist gweledol a gwneuthurwraig ffilmiau fedrus yw Eija-Liisa Ahtila. Mae'n cynhyrchu ffotograffau a fideos neu osodweithiau ffilm sy'n llenwi ac yn gwyrdroi orielau. Mae'n cyfuno gwrthrychedd rhywun sy'n creu rhaglenni dogfen â delweddau dychmygol seicolegydd. Mae'n disgrifio'i ffilmiau fel ‘dramâu dynol'. Mae manylion bywyd pob dydd, straeon am weithgareddau swrreal a thystiolaeth am gyflwr meddwl pobl yn cyfuno'n weledol i greu gweithiau sy'n cael eu cyfoethogi gan nodweddion sinemataidd a theleweledol cyfryngau'r artist.

THOMAS DEMAND – cafodd ei eni ym Munich ac mae'n byw ac yn gweithio yn Berlin. Mae Thomas Demand yn ymddiddori yn y ffordd rydyn ni'n amsugno gwybodaeth a phrofiadau trwy'r cyfryngau, neu fel mae ei'n ei ddweud – sut ‘mae pethau yn dod yn realaeth trwy ffotograffau'. Mae'n delio â'r ffordd y mae'r delweddau a gynigir i ni trwy ffotograffau, ffilm a theledu yn cyflwyno fersiynau o realaeth ac i ba raddau mae'r delweddau hyn yn aros gyda ni yn ein bywydau bob dydd.

MAURICIO DIAS A WALTER RIEDWEG – Mae'r artist o Frasil, Mauricio Dias a'r artist o'r Swistir, Walter Riedweg wedi bod yn cydweithio ers 1993. Eu crefft yw sgwrsio gyda phobl, fel unigolion ac fel aelodau o grwpiau cymdeithasol. Maen nhw'n ymddiddori mewn dialog ac yn dechrau sgwrsio â phobl mewn gwahanol rannau o'r byd, gan ddal profiadau, ‘cyflwr meddwl' a syniadau personol. Gan ddefnyddio camera fideo, maen nhw'n cydweithio i edrych ar y ddynoliaeth yn ei holl ffurfiau, yn ddaearyddol ac yn gymdeithasol. Mae eu testunau'n gydweithwyr parod – sy'n dogfennu, yn cyffesu, yn holi ac yn ateb.

LEANDRO ERLICH – cafodd ei eni yn Buenos Aires, yr Ariannin ac mae'n dal i weithio yno. Mae Leandro Erlich yn creu gweithiau celf sy'n herio'n syniadau am realaeth. Mae ganddo ddiddordeb yn y pethau rydyn ni'n eu gweld, y llefydd rydyn ni'n eu llenwi a'r cyd-destunau rydyn ni'n ein ffeindio'n hunain ynddynt bob dydd. Mae Erlich yn creu gosodweithiau neu fyd ffisegol cyflawn y mae'r gynulleidfa'n cael mynd iddo. Mae'n defnyddio pa bynnag ddeunyddiau adeiladu sydd eu hangen, gan gynnwys drychau a thafluniadau, i greu ffurfiau ar realaeth. Mae ei waith yn cysylltu'r holl synhwyrau bron, ac mae'n ein gwahodd ni i gymryd rhan, neu hyd yn oed i ryngweithio â'r mannau mae'n eu creu. Trwy wneud hyn, mae'n ein troi ni'n actorion ar lwyfan theatr hyfryd.

SUBODH GUPTA – cafodd ei eni yn Khagaul, India ac mae'n byw ac yn gweithio yn New Delhi. Mae Subodh Gupta'n gweithio o'i brofiad ei hun o'r cyferbyniadau mawr sy'n bodoli mewn gwlad sy'n cyfuno symlrwydd gwledig a globaleiddiad trefol cynyddol. Mae'n gweithio gyda phethau sy'n bodoli eisoes ac amrywiaeth o ddeunyddiau i greu arwyddluniau a symbolau o'r gymdeithas o'i gwmpas. Mae'n dewis pethau fel beiciau ac offer coginio, neu'n gwneud castiau o fagiau neu wartheg maint llawn fel symbolau cyfarwydd o fywyd pob dydd yn India heddiw.

WU CHI-TSUNG – cafodd ei eni yn Taipei, Taiwan ac mae'n dal i fyw a gweithio yno. Delweddau sy'n mynd â bryd Wu Chi-Tsung; sut maen nhw'n cael eu creu a sut rydyn ni'n eu gweld nhw. Mae ei waith hyd yn hyn wedi cynnwys ffotograffiaeth a fideo a'r prosesau sydd eu hangen i greu delweddau. Mae'n arbrofi gyda'r prosesau, gan ecsbloetio'r alcemi sy'n gynhenid i ffotograffiaeth gemegol, neu'n newid yr elfennau amseru sy'n gwneud ffilm yn gyfrwng ar gyfer symud.

SUE WILLIAMS – Mae Sue Williams yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae'n barod i gyfaddef bod ei chelf yn adlewyrchiad ohoni hi ei hunan. Mae'n ail-greu profiadau mewn peintiadau a darluniau ac nid yw'n cilio rhag dangos y cyfyng-gyngor o fod yn fenyw gryf yn y gymdeithas sydd ohoni. Ffrwyth cyfnod dwys o waith yw'r cynfasau hyn, ac maen nhw'n parhau â'u dull nodweddiadol o ddarlunio sy'n galluogi iddi ‘godi syniadau/delweddau o mhen yn gyflym'.