Datganiadau i'r Wasg

Cymeriadau Ffilm yn Fwy o Flaen Eich Llygaid

Gyda llai na wythnos i fynd cyn agoriad y ffilm Ice Age 2: The Meltdown ym Mhrydain, beth am alw mewn i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael cip go iawn ar rai o'r anifeiliaid sydd i'w gweld yn y ffilm.

Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gasgliad arbennig o anifeiliaid o gyfnod Oes yr Ia – gan gynnwys mamoth go arbennig, sy'n debyg iawn i'r cymeriadau Manny ac Ellie yn y ffilm boblogaidd.

Meddai Siân James, Swyddog y Wasg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:

"Mae poblogrwydd ffilmiau fel Ice Age yn ddi-os yn gyfle i ni godi ymwybyddiaeth o'n casgliadau ni. Lle arall yng Nghaerdydd – a Chymru gyfan – y gallwch ddod i weld olion mamoth blewog go iawn? Rydym yn gobeithio y bydd plant a'u rhieni yn tyrru i'r amgueddfa dros gyfnod y Pasg er mwyn cael cwrdd â'r anifeiliaid a oedd yn byw yn ystod Oes yr Ia."

Mae digonedd i'w weld a'i wneud yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyma gartref casgliadau gwyddonol a chelf Amgueddfa Cymru. Gyda bwyty, siop goffi a siop anrhegion, does dim esgus dros beidio â threulio diwrnod cyfan yn crwydro orielau amrywiol yr amgueddfa. Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gulbenkian eleni.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o fanylion am ddigwyddiadau'r gwyliau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, .

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o wybodaeth am y datganiad hwn, cysylltwch â Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol Amgueddfa Cymru – 029 2057 3185.