Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn annog pawb i gefnogi Abertawe

Ddydd Mercher nesaf (12 Ebrill), bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn clywed os ydyn nhw wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol yng Ngwobr Gulbenkian 2006 am Amgueddfa Orau Prydain. Mae'r amgueddfa, a agorodd ei drysau yn Hydref 2005, a sydd wedi denu dros 80,000 o ymwelwyr, eisoes wedi cyrraedd y deg olaf yn y gystadleuaeth arobryn hon. Meddai Steph Mastoris, Pennaeth yr amgueddfa:

"Mae hwn yn gyfnod hynod o gyffrous i ni i gyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn gwbl anghredadwy. Byddai'n wych cyrraedd y rhestr derfynol yn y gystadleuaeth hon, fel ffordd o ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a'u cymorth dros y blynyddoedd diwethaf."

Dyma'r eildro yn olynol i un o safleoedd Amgueddfa Cymru lwyddo yng ngwobr y Gulbenkian. Llynedd, enillodd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru y brif wobr, ac eleni, maen nhw'n cefnogi cais eu chwaer-amgueddfa yn Abertawe. Mae Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, yn ymwybodol iawn o lwyddiant Abertawe yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.

"Mae cyrraedd rhestr Gwobr Gulbenkian eto eleni'n dipyn o gamp" meddai. "Mae'n dangos heb amheuaeth bod Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi dal dychymyg pobl ledled Prydain ac mae'r sefydliad i gyd wrth eu bodd ar lwyddiant yr Amgueddfa.

"Cafodd Big Pit flwyddyn arbennig o dda ar ôl ennill y gystadleuaeth yma y llynedd, a rydym i gyd yn gobeithio'n arw y bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn gallu efelychu llwyddiant un arall o deulu Amgueddfa Cymru drwy ennill y brif wobr eleni."

Gyda dim ond wythnos i fynd cyn cyhoeddi enwau'r rheini sydd ar y rhestr fer derfynol, mae cyfle o hyd i roi'ch barn ac i annog y beirniaid i ddewis Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fel un o bedair prif amgueddfa Prydain. Ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk <http://www.amgueddfacymru.ac.uk/> a chliciwch ar y gwybodaeth am y Gulbenkian ar yr hafan-dudalen.

Daw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Big Pit ill dwy o dan adain Amgueddfa Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru. Yr amgueddfeydd eraill yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion.

Ceir mynediad am ddim i bod un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru, 029 2057 3175.