Datganiadau i'r Wasg

Enillydd Gulbenkian yn cefnogi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Big Pit, enillydd Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa Orau’r Flwyddyn y llynedd, yn cefnogi’r unig amgueddfa yng Nghymru sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ddiweddaraf.

Agorodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i’r cyhoedd yn yr hydref, gan adrodd stori diwydiant a blaengaredd pobl Cymru a’u heffaith ar y byd, ac mae hi wedi cyrraedd rhestr y deg olaf i ennill gwobr fwyaf byd y celfyddydau yn y DU.

Dywedodd Ceidwad a Rheolwr Big Pit, Peter Walker: “Mae ennill y wobr wedi bod yn brofiad anhygoel i ni. Mae hi wedi ein galluogi ni i ddenu rhagor o ymwelwyr ac i ategu ein henw da fel Amgueddfa.

“Un o’r pethau pwysicaf i ni oedd yr adborth a adawodd ein hymwelwyr a’n cefnogwyr ar wefan Gulbenkian, ac rwy’n annog y bobl a’n cefnogodd ni yn 2005 i gefnogi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i weld a allwn ni ddod â’r wobr nôl i Gymru eto eleni.”

I gefnogi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, a dilynwch y cysylltiad i wefan Gulbenkian.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o fanylion am gefnogaeth Big Pit, cysylltwch â:

Kathryn Stowers, Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Big Pit.
Ffôn: 01495 790311. Ffôn poced: 07970 017210
E-bost Kathryn Stowers