Datganiadau i'r Wasg

BRUNEL – Gweithiau yng Nghymru: Works in Wales

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n lansio arddangosfa dros dro newydd sy’n edrych ar waith Isambard Kingdom Brunel yn Ne Cymru ar 6 Ebrill 2006. Mae’r arddangosfa’n defnyddio delweddau modern ac archif i ddangos sut helpodd gwaith Brunel ar reilffyrdd, pontydd, dociau a llongau yn yr ardal yma i chwyldroi trafnidiaeth a gosod Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol rhyngwladol.

Caiff ymwelwyr glywed hefyd sut llwyddodd Brunel i oresgyn trafferthion tirwedd Cymru er mwyn galluogi’r locomotifau stêm newydd i gludo glo a haearn i lawr o’r cymoedd i’r môr. Ac ar y lan, fe adeiladodd ddociau i allforio ein cynnyrch i weddill y byd. Ymysg ei orchestion roedd traphont Glan-d?r, â’r bwa pren hiraf yn y byd; y gwaith a wnaeth ar y PSS Great Eastern - llong fwya’r byd yn ei dydd yn Aberdaugleddau, Sir Benfro; a’r South Wales Railway, oedd yn cysylltu Cymru â Llundain ac yn torri hyd y daith i lai na chwarter yr amser y byddai’n ei chymryd mewn coets.

Mae’r arddangosfa’n dathlu 200 mlynedd ers geni Brunel, ac mae’n un o blith nifer o ddathliadau ledled Cymru a gweddill Prydain. Bydd yn teithio i sawl canolfan yng Nghymru ar ôl cau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym mis Mehefin. Bydd manylion llawn y daith ar gael ar .

Noddir yr arddangosfa trwy haelioni Sefydliad y Peirianwyr Sifil a Sefydliad Peirianwyr De Cymru. Helpodd Stephen K. Jones, arbenigydd enwog ar waith Brunel yng Nghymru, gyda’r gwaith ymchwil ar gyfer yr arddangosfa.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Fawr Gulbenkian eleni ac mae’n rhan o deulu Amgueddfa Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:

Fay Harris
Swyddog y Wasg a Marchnata
E-bost Fay Harris
(01792) 638970