Datganiadau i'r Wasg

Tŷ llawn arall yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Gwerthodd holl docynnau Darlith Flynyddol Big Pit eleni mewn llai na 24 awr.

Cynhaliwyd Darlith Flynyddol gyntaf Big Pit, enillydd Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa Orau’r DU yn 2005, ddwy flynedd yn ôl yn 2004. Mae’r digwyddiad yn boblogaidd dros ben, ac aeth holl docynnau rhad ac am ddim darlith eleni mewn llai na diwrnod ar ôl agor y swyddfa docynnau.

Testun y ddarlith, fydd yn digwydd ddydd Sadwrn, 8 Ebrill am 2.30pm, yw Dr Joseph Parry, mab gweithiwr haearn o Ferthyr Tudful a aeth ymlaen i fod yn gyfansoddwr toreithiog ac yn un o Gymry enwocaf ei genhedlaeth. Rydyn ni’n ei gofio orau heddiw am ei gân serch, Myfanwy. Dr Dulais Rhys, awdurdod ar fywyd a gwaith Dr Parry, fydd yn traddodi’r ddarlith.

Dywedodd Ceidwad a Rheolwr Big Pit, Peter Walker: “Mae’r Darlithoedd Blynyddol wedi bod yn llwyddiannus ers y dechrau, ond roedd hi’n syndod mawr i ni weld yr holl docynnau’n mynd mor gyflym eleni.

“Rydyn ni’n deall pa mor bwysig oedd cerddoriaeth i fywyd cymdeithasol trefi a phentrefi glofaol yn y de, a byddwn ni’n dathlu’r berthynas arbennig yma mewn cyfres o ddigwyddiadau dros y gwanwyn, gan ddechrau gyda’r Ddarlith Flynyddol ei hun.

“Ond bydd, Dr Rhys yn ailadrodd y ddarlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe ym mis Awst. Felly os na lwyddoch chi i gael tocyn y tro yma, gwnewch yn si?r eich bod chi yn Abertawe yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.”

Caiff y ddarlith ei thraddodi yn Gymraeg yn y Brifwyl, ond Saesneg fydd cyfrwng darlith dydd Sadwrn yn Big Pit.

Cyn y ddarlith, bydd Band Tref enwog Tredegar yn perfformio yn yr Amgueddfa am 12.30pm. Bydd y gyngerdd yn lansio tymor Cerddoriaeth y Meysydd Glo yn Big Pit, sef cyfres o gyngherddau brynhawn Sul gan Fandiau a Chorau blaenllaw de Cymru. I gyd-fynd â hyn bydd digwyddiadau a gweithgareddau i’r teulu cyfan, gan gynnwys gweithdai i blant wneud offerynnau cerdd.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

  • I gael rhagor o wybodaeth am y Ddarlith Flynyddol a’r gweithgareddau cysylltiedig, cysylltwch â: Kathryn Stowers, Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Big Pit. Ffôn: 01495 790311. Ffôn poced: 07970 017210. E-bost Kathryn Stowers
  • Mae Big Pit ar agor bob dydd 9.30am-5pm. Mae’r teithiau danddaear yn rhedeg yn gyson 10am-3.30pm. Rhaid i blant fod dros fetr o daldra i fynd danddaear.