Datganiadau i'r Wasg

Gweithgareddau Amgueddfa Cymru dros Wyliau'r Pasg

Mae gan Amgueddfa Cymru rywbeth i'w gynnig i bawb dros wyliau'r Pasg.

Beth am gael cip ar arddangosfa Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd? Bydd gweithgareddau'r Pasg yn cynnwys sesiynau llawn hwyl i'r teulu cyfan i drafod a chreu celf.

Ydych chi erioed wedi ystyried dysgu rhagor am draddodiadau'r Pasg yng Nghymru? Dewch ar daith arbennig o amgylch Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan dros y gwyliau, a helpwch ni i wneud wy Pasg 3-dimensiwn anferth!

Bydd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru'n rhoi cyfle i chi greu cerddoriaeth i'r galon. Rhowch gynnig ar chwarae pob math o offerynnau traddodiadol – a chael cyfle i wneud eich offeryn eich hun hefyd!

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe'n helpu i sbarduno'ch doniau peirianneg dros y Pasg, gydag amrywiaeth o Sialensiau Dyfeisio a Darganfod i helpu'r teulu cyfan i ddysgu crefft adeiladu.

Os yw'r Rhufeiniaid yn mynd â'ch bryd, cewch ddysgu rhagor am eu hanes yn y gweithdai arbennig ar y Rhufeiniaid fel Plant yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion.

Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre'n cynnig gweithgaredd mwy hamddenol gyda Llwybr unigryw i Deuluoedd. Cewch gyfle i gribo, nyddu, gwehyddu a gwnïo wrth grwydro'r amgueddfa.

A chofiwch – mae siopau gwych ym mhob un o'n hamgueddfeydd. Felly os ydych chi'n chwilio am anrheg Pasg arbennig, galwch heibio i weld beth sydd ar gael.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o fanylion cysylltwch â
Sian James Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
029 2057 3185 / 07812 801356
E-bost Siân James