Datganiadau i'r Wasg

Profiad cofiadwy i'r teulu oll yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis dros gyfnod y Pasg

Os am ddiwrnod allan cofiadwy yn ystod gwyliau'r Pasg, yna Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis ydi'r lle i ddod!

Gadewch i'n crefftwyr eich syfrdanu gyda'u sgiliau hollti a naddu llechi; dringwch i'r uchelderau i weld yr olwyn ddŵr enfawr – y mwyaf o'i bath ar dir Prydain - a chymerwch gipolwg i fewn i'n Tai Chwarelwyr i weld sut yr oedden nhw'n byw! I'r plant bydd cyfle hefyd i wneud cerdyn Pasg gyda nwyddau CERT CELF yr amgueddfa, gwneud rwbiadau llechen, neu gyfle i gwblhau un o'n taflenni hwyl teuluol!

Mae caffi cyfforddus a siop ar y safle yn llawn nwyddau unigryw — cyfle gwych am baned a theisen cyn gwneud tipyn o siopa!

Ond mae'n werth ymweld â'r Amgueddfa am ei lleoliad yn unig - yng nghanol hyfrydwch Parc Padarn, sydd hefyd yn gartref i Reilffordd Llyn Padarn, Ysbyty'r Chwarel a Seren Yr Wyddfa – taith cwch bleser ar Lyn Padarn.

Mae'r Amgueddfa ar agor o 10am – 5pm ac mae mynediad AM DDIM diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru — Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Am ragor o fanylion cysylltwch â Julie Williams ar 01286 873707