Datganiadau i'r Wasg

Rhufeiniaid a 'Ragtime' yn y de-ddwyrain dros y Pasg

Dewch â’r teulu draw i ddwy amgueddfa Amgueddfa Cymru yng Ngwent dros y Pasg i ddysgu am y Rhufeiniaid fel plant a Cherddoriaeth yn ardaloedd diwydiannol y de.

Dewch i ddysgu sut beth oedd bywyd i blant y Rhufeiniaid mewn gweithdai yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion. Bydd y gweithdai’n rhedeg rhwng 11 am-4 pm ar 10-14 a 17-21 Ebrill, a bydd y gweithdai’n cynnwys straeon am blentyndod y Rhufeiniaid a’u gemau bwrdd. A’r cyfan am £1 y plentyn.

Ac yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, cewch roi cynnig ar chwarae cyfres o offerynnau cerdd, a cheisio gwneud eich offeryn eich hun - ac ymuno yn ein ‘cyngerdd’ ddyddiol am 3 pm. Bydd y gweithdai’n rhedeg rhwng 11 am-3 pm ar 13-18 Ebrill. Mynediad am ddim.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau'r Pasg, cysylltwch â Kathryn Stowers, Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Big Pit ar Ffôn: 01495 790311, 07970 017210. E-bost Kathryn Stowers

Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar agor dydd Llun – Sadwrn 10 am–5 pm, Sul 2 pm–5 pm. Mae Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ar agor bob dydd rhwng 9.30 am–5 pm. Mae'r teithiau danddaear yn rhedeg yn gyson 10 am–3.30 pm. Rhaid i blant fod dros un metr o daldra i fynd danddaear.