Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfeydd, Treftadaeth, Diwylliant — Beth yw'r Pwynt?

Ar Dir Cyffredin

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 11 Ebrill – 21 Mai 2006

Mae Ar Dir Cyffredin, project Amgueddfa Cymru i gynnwys pobl yn y gymdeithas, yn edrych ar y cwestiwn yma a sawl un arall trwy weithio gyda phobl ifanc mewn cymunedau lleol ledled Cymru. Bydd arddangosfa arbennig sy'n agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yr wythnos hon yn dangos gwaith diweddaraf y project.

Dywedodd Cydlynydd y Project, Sarah Greenhalgh:

"Mae'r project yn ffordd wych o ddefnyddio treftadaeth, diwylliant a chasgliadau'r amgueddfa i sbarduno a chynnal brwdfrydedd, gan oresgyn y rhwystr sylfaenol sef bod ‘amgueddfeydd yn ddiflas'. Mae ymroddiad y bobl ifanc i'r project wedi bod yn eithriadol ac mae'r gwaith a gynhyrchwyd ar gyfer ein harddangosfeydd yn sbarduno trafodaeth, yn ddeniadol ac yn wahanol i lawer o'r pethau welwch chi mewn amgueddfa.

"Rydyn ni wrthi'n gweithio gyda phobl ifanc mewn pump ardal yng Nghymru – Caerffili, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Cheredigion, i edrych ar agweddau ar dreftadaeth ddiwylliannol mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Caiff y gwaith ei gynhyrchu mewn cyfrwng o ddewis y grŵp – unrhyw beth o gelf gain i ffilmiau neu wefannau."

Mae Gweinidog Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh AC yn credu bod y project yn un amhrisiadwy, ac meddai:

"Un o nodau Llywodraeth Cynulliad Cymru yw creu cyfleoedd i bobl ifanc fwynhau diwylliant Cymru, ac mae gwaith y project Ar Dir Cyffredin yn ffordd bwysig o gynnwys pobl ifanc mewn ffordd anarferol a llwyddiannus. Mae'n ffordd wych o sbarduno diddordeb pobl a'u tynnu i mewn i fyd diwylliant a'r celfyddydau. Hoffwn longyfarch Amgueddfa Cymru ar y project."

Mae'r project yn brawf o ymroddiad Amgueddfa Cymru i gynnwys pobl yn y gymuned, cynnig cyfleoedd ac achrediad i bobl ifanc, a dangos bod gan amgueddfeydd yr 21ain ganrif rywbeth i'w gynnig i'r gymuned gyfan, dim ots beth yw eu hoedran, eu gallu na'u cefndir diwylliannol.

Ariennir Ar Dir Cyffredin gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Ymddiriedolaeth Ernest Cook, Sefydliad Lloyds TSB, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Amgueddfa Cymru a Noddwyr yr Amgueddfa.

Cewch weld yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r Amgueddfa ar agor dydd Mawrth-Sul, 10 am-5 pm ac ar ddydd Llun Gŵyl y Banc. Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o'r saith amgueddfa genedlaethol yn nheulu Amgueddfa Cymru. Dyma'r lleill: Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i'r holl amgueddfeydd cenedlaethol, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Ar Dir Cyffredin, ewch i www.oncommonground.co.uk

I gael rhagor o wybodaeth ar gynnwys y datganiad i'r wasg yma, cysylltwch â Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185.